Digwyddiadau Ymchwil Ymchwil Ôl-raddedig
Cynhelir llawer o ddigwyddiadau gan fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith ac ar eu cyfer: Gan gynnwys y gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n annog rhannu syniadau a barn drwy gyflwyno ymchwil pob myfyriwr ar ffurf cynhadledd; A’r digwyddiad Thesis Tair Munud (3MT) a arweinir gan y Brifysgol ac sy’n cyfrannu at y gystadleuaeth 3MT genedlaethol.
Yn ogystal â digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar academia, mae llawer o ddyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy’n ymroddedig i “lais y myfyriwr”, gan sicrhau bod ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn chwarae rôl weithgar ym mywyd Ysgol y Gyfraith, ac mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol a chydweithio, gan ddatblygu ymdeimlad o gymuned yn Ysgol y Gyfraith.