Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r Prifardd Aneirin Karadog, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, oedd enillydd y Wobr Farddoniaeth gyda’i ail gasgliad o gerddi, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas).
Mae’r gyfrol Bylchau yn gasgliad sy’n myfyrio ar y bylchau a adewir gan golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant, ac am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny drachefn.
Wrth dderbyn y Wobr, meddai Aneirin:
“Roedd cael enwebiad yn fraint yn ei hunan, ond mae'r ffaith fod Bylchau, fy ail gyfrol, wedi ennill y categori barddoniaeth, fel y gwnaeth fy nghyfrol gyntaf o gerddi, O Annwn i Geltia, yn fy llenwi â balchder ond hefyd yn dod â thon o wyleidd-dra drosof. Mae meddwl fod grŵp o feirniaid wedi mynd ati i ddarllen, trafod a gwerthfawrogi fy ngwaith yn anrhydedd. Yr hyn ddylai pob bardd ei ddeisyfu yw fod yna fywyd pellach i gerddi wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi, ac nid disgwyl i waith gorffenedig hel llwch yn eistedd ar silff. Mae'r sylw a ddaw felly o wobr fel hon ac o ennill y categori barddoniaeth yn gallu golygu canfod cynulleidfaoedd newydd. Ond yn bwysicach man hyn oll yw cael bod yn rhan o ddathliad o lyfrau Cymraeg, gan bod y diwydiant ar y cyfan yn iachach nag y bu erioed o ran y gwaith mae'r gweisg yn ei wneud a'r doniau sydd ledled Cymru o ran awduron."
Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:
“Roedd hi’n hyfryd iawn gweld Aneirin yn dod i’r brig yng nghategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae Bylchau yn gyfrol arbennig iawn ac mae’r Academi gyfan yn falch iawn o lwyddiant haeddiannol Aneirin. Roedd hi mor braf bod Aneirin ac un arall o aelodau’r Academi, yr Athro Alan Llwyd, ar y rhestr fer eleni. Mae’n adlewyrchu’r bwrlwm academaidd a chreadigol Cymraeg sy’n nodwedd o Academi Hywel Teifi. “
Y panel beirniadu Cymraeg eleni oedd: y beirniad llenyddol Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George; ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol arobryn, Palas Print yng Nghaernarfon.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu’n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr”.