Dysgu - Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe
Y mae staff yr Academi yn darparu cyngor a chynllunio strategol ar gyfer datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn amrywiaeth o bynciau ar draws y Brifysgol. Gan gydweithio’n agos ȃ'r Coleg Cymraeg, y mae cynnydd sylweddol wedi bod yn ein darpariaeth a’n corff o staff academaidd cyfrwng Cymraeg.
Mae hawl myfyrwyr Cymraeg yng Nghymru wedi newid. Bellach, mae gan fyfyrwyr hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Am fanylion pellach, ewch i'n tudalen Mae gen i Hawl.