Astudio trwy'r Gymraeg ar Raglenni Ôl-raddedig

Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i’th gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio drwy’r iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ac o fantais sylweddol ac fe gei gefnogaeth ac anogaeth lawn i wneud hynny er mwyn ychwanegu at dy gyflogadwyedd, i feithrin sgiliau dadansoddi ac i ddangos y gallu i weithio mwy mwy nag un iaith.

Mae’r Academi yn darparu cymuned i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma, ac i staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Drwy gefnogi adrannau’r Brifysgol mae’r Academi wedi galluogi cynnydd sylweddol yn nifer y pynciau sydd yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn Abertawe. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf mae ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) er mwyn hyfforddi Athrawon Uwchradd y dyfodol mewn ystod o feysydd, ac mae’n cwrs Meddygaeth i ôl-raddedigion yn un uchel iawn ei barch.

 

Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Meistr a Addysgir

Cefnogaeth Ariannol ar gyfer Ôl-raddedigion o Gymru