Bydd yn rhan o gymuned Gymraeg Prifysgol Abertawe

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous os ydych chi'n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Mae Academi Hywel Teifi yn darparu cymuned ar gyfer y miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma gan gefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe.

Llun o ap Arwain
Lawrlwytha ap Arwain

Ap Arwain

Mae Arwain yn ap rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n siarad neu'n dysgu Cymraeg. Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, y gefnogaeth ariannol sydd ar gael, ynghyd â’r cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg.
Ar gael nawr ar App Store a Google Play..