Pob cyfle i wireddu eich potensial

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i wireddu ei lawn botensial. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu ymhellach ein gwasanaethau cymorth sgiliau academaidd a llesiant ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 

 

Digwyddiad Croeso i lasfyfyrwyr

Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch gymaint o help a chefnogaeth â phosib sy'n cychwyn gyda digwyddiad croeso i fyfyrwyr Cymraeg wedi'i drefnu gan Academi Hywel Teifi.

Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i chi;

  • ddysgu mwy am y ddarpariaeth Gymraeg
  • ddod i adnabod staff cyfrwng Cymraeg 
  • ddysgu am y cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi yn ystod eich amser yn astudio gyda ni
  • gwrdd â myfyrwyr Cymraeg eraill o bob cwr o Gymru!

 

Cefnogaeth o'r cychwyn

Myfyrwyr yn mynychu digwyddiad croeso Cymraeg

Cefnogaeth gyda'ch sgiliau academaidd

Mae Canolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig cyngor arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau academaidd. Mae’r ddarpariaeth hyn wedi ei deilwra ar gyfer y cyd-destun Gymraeg, a rhoddir sylw i anghenion penodol myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys ymarferion dwyieithog, technoleg a meddalwedd priodol, yn ogystal i’r sgiliau sy’n gyffredin i fyfyrwyr o unrhyw iaith - meddwl yn feirniadol, cyfansoddi dadl, cyfeirio ac aralleirio, a sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio.

Mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd rhaglen fywiog ac amrywiol cyfrwng Cymraeg yn cynnwys cyrsiau ac adnoddau e-ddysgu, ynghyd â gweithdai wyneb yn wyneb. Ewch i dudalennau'r Ganolfan ar MyUni am fanylion.

 

graffeg yn hyrwyddo sesiynau galw heibio'r Gangen

Cymorthfeydd Cangen y Coleg Cymraeg

Rhan o waith y Gangen ydi gwneud yn siŵr fod yna ddigon o ddarpariaeth ar gael drwy'r Gymraeg i fyfyrwyr yma yn Abertawe, ac i gynnal y gymuned Gymraeg. Pob mis, mae'r Gangen yn cynnig cymorthfa ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae hwn yn gyfle i fyfyrwyr alw heibio i siarad â'r Swyddog Cangen am sgwrs anffurfiol lle mae modd holi cwestiynau am y cwrs ac am fywyd cyffredinol fel myfyrwyr neu codi pryderon. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr gyfarfod â myfyrwyr Cymraeg eraill. Cynhelir y sesiynau galw heibio yn ystod y tymor academaidd rhwng 10am-12pm ar ddydd Mercher cyntaf pob mis ar gampws Singleton (Ystafell Talbot 162) ac ar ddydd Iau cyntaf pob mis ar gampws y Bae (Y Twyni). At hynny, mae swyddfa'r Gangen o hyd yn agored, ac mae croeso i myfyrwyr alw heibio ystafell Talbot 162 unrhyw bryd.

 

Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd gwaith

Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol a lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.

I ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael i ddatblygu dy sgiliau i'r byd gwaith, gan gynnwys y Tystysgrif Sgiliau Iaith, cer i Cyflogadwyedd a Mentergarwch - Academi Hywel Teifi.