Academi Hywel Teifi yn estyn croeso Cymraeg cynnes i’r glasfyfyrwyr
Er gwaetha’r amgylchiadau anarferol y mae myfyrwyr newydd wedi eu hwynebu wrth ddechrau’r brifysgol eleni, mae Academi Hywel Teifi wedi llwyddo i estyn croeso Cymraeg cynnes i’r glasfyfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dechrau ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
Comisiynodd Academi Hywel Teifi ddigwyddiad croeso rhithwir arbennig Cwis, Croeso a Chicio Corona gan drefnwyr Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol, sef noson o hwyl, cwis a cherddoriaeth a oedd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Cymraeg gwrdd â’i gilydd. Roedd y noson yng nghwmni y DJ Elan Evans ac un o sêr Hansh S4C, Garmon ab Ion. Enillwyr y cwis ar y noson oedd Erin MacDonald, sy’n astudio Biocemeg Meddygol a Hanna Parry, sy’n astudio Daearyddiaeth. Mae’r ddwy yn gyn-ddisgyblion Ysgol Bro Teifi, Llandysul ac yn byw yn Aelwyd Penmaen, Neuadd Gymraeg y Brifysgol.
Derbyniodd pob glasfyfyriwr a ddaeth i’r noson becyn croeso arbennig a oedd yn cynnwys cerdyn arbennig i’w croesawu i Abertawe. Ymhlith yr anrhegion eraill roedd potel ddŵr Prifysgol Abertawe, cylch allwedd Maes B, agorwr poteli y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, daliwr a photel diheintydd dwylo arbennig Academi Hywel Teifi a phecyn o Waffles Tregroes. Cafodd y glasfyfyrwyr hefyd wybodaeth am fywyd Cymraeg y Brifysgol a sut i ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor.
Dywedodd Lois Wyn Griffiths, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Roedd yn hyfryd cael croesawu cymaint o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg newydd atom i Brifysgol Abertawe ac er nad oeddem yn medru cwrdd wyneb yn wyneb yn ôl yr arfer, llwyddodd y digwyddiad Cwis, Croeso a Chicio Corona roi cyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd a mwynhau cwmni ei gilydd. Roedd yn braf medru cydweithio gyda Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb, Katie Phillips, a’r GymGym (Y Gymdeithas Gymraeg) i roi’r dechrau gorau posib i’r glasfyfyrwyr ar ddechrau’r tymor newydd.”
Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:
“Er bod yr amgylchiadau eleni wedi bod yn ddigon heriol roedd Academi Hywel Teifi yn benderfynol o estyn croeso cynnes i’n glasfyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yma i Abertawe ac i sicrhau eu bod yn clywed am y gefnogaeth a’r cyfleon sydd ar gael i fyw ac astudio trwy'r Gymraeg.“