Ar nos Fercher 29 Tachwedd, tro Prifysgol Abertawe oedd cynnal Darlith Goffa JE Caerwyn a Gwen Williams 2017 sy'n cael ei chynnal yn flynyddol er cof am y diweddar Athro John Ellis Caerwyn Williams a’i wraig Gwenifred.
Dr Rhian Andrews oedd yn traddodi'r ddarlith eleni a'r teitl oedd Canu Crefyddol Elidir Sais. Bardd llys a ganai yng Ngwynedd yn ail hanner y ddeuddegfed ganrif oedd Elidir Sais. Goroesodd chwech o’i awdlau i Dduw a bu'r ddarlith yn ystyried beth a ddywedant wrthym am ei ffydd ac am ei wybodaeth grefyddol.
Brodor o Abertawe yw Dr Rhian Andrews. Wedi graddio ym Mangor a Dulyn bu’n darlithio yn yr Adran Geltaidd ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast, nes ymddeol. Ei maes ymchwil yw gwaith Beirdd y Tywysogion, y beirdd llys a ganai yn ystod y cyfnod 1100-1300. Cyhoeddodd erthyglau ar fydryddiaeth, gramadeg, y cyd-destun hanesyddol, themâu llenyddol ac awduriaeth. Golygodd gerddi gan dri o’r beirdd yn Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (1996), y seithfed gyfrol yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion, prosiect cyntaf y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Golygodd ddetholiad o 33 o gerddi’r gyfres yn ei chyfrol Welsh Court Poems (2007).
Trefnwyd y ddarlith goffa gan Academi Hywel Teifi dan nawdd Canolfan Uwchefrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru.