Her Academi Morgan
Fel y gwyddoch, efallai, mae Prifysgol Abertawe yn noddi ac yn cynnal gweithgareddau yn y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Fel rhan o’r gweithgareddau eleni, hoffai Academi Morgan, sy’n ymchwilio i faterion polisi cyhoeddus, ac Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe wahodd disgyblion blwyddyn 12 ac 13 i gymryd rhan mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus ar lwyfan y GwyddonLe yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.
Meddai Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan,
"Dyma gyfle i ddisgyblion chweched dosbarth arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan wleidyddion blaenllaw fydd yno’n beirniadu’r gystadleuaeth."
Mae yna wobr ariannol o £500 i’r ysgol fuddugol ac ar ben hynny bydd cyfle amhrisiadwy i’r unigolyn buddugol ddod ar brofiad gwaith i Academi Morgan, Prifysgol Abertawe. Os nad yw hynny’n gyfleus, gallwn drefnu profiad gwaith mwy lleol gan ddefnyddio ein cysylltiadau gydag Aelodau Cynulliad eich ardal chi. Bydd pawb sy’n mentro trwy gymryd rhan yn derbyn tystysgrif hefyd a fydd yn dystiolaeth werthfawr ar gyfer datganiad personol neu ddatblygiad gyrfa. Cynhelir y digwyddiad ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd ar ddydd Gwener, y 1af o Fehefin, rhwng 11am ac 1pm, yn y GwyddonLe, Adeilad De Morgannwg.
Gofynnir i ysgolion enwebu dau ddisgybl i gymryd rhan a bydd angen i un disgybl fod yn barod i ddadlau dros y testun gosod, a’r llall yn erbyn. Os oes diddordeb gennych, a wnewch chi anfon clip fideo o’r ddau ddisgybl gyda’i gilydd, yn amlinellu pam y dylid eu dewis nhw i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a beth yw eu safbwyntiau ar y testun gosod, sef "Mae ynni niwclear yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad ynni cynaliadwy i Gymru". Ni ddylai’r clip fod yn hirach na 90 eiliad, a chofiwch gynnwys enwau’r unigolion ac enw’r ysgol. Anfonwch y clip fideo atom ar ffurf ffeil neu ddolen ar e-bost at saran.g.thomas@abertawe.ac.uk erbyn y 30ain o Fawrth 2018.
Bydd proses ddethol yn digwydd wedyn ar sail y clipiau hyn ac fe gaiff yr ysgol wybod erbyn yr 20fed o Ebrill a fydd gwahoddiad i chi gystadlu yn y GwyddonLe. Bydd manylion pellach ar union strwythur y gystadleuaeth gyda’r neges honno.
Ychwanegodd Helen Mary Jones,
"Gobeithiwn yn fawr y bydd gan yr ysgol, a’ch disgyblion, awydd cystadlu yn Her Academi Morgan ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau."