Diwrnod arbennig iawn i ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9 o ysgolion Cymraeg
Fel rhan o Daith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli 2023, cynhaliwyd diwrnod arbennig iawn i ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9 o ysgolion Cymraeg ar draws de Cymru yng Nghanolfan Taliesin ddechrau mis Tachwedd.
Cafodd y plant gyfle i fod yn rhan o sesiynau ysgrifennu creadigol yng nghwmni rhai o feirdd ac awduron amlycaf Cymru. Bu’r disgyblion ddaeth i Brifysgol Abertawe yn ddigon ffodus i gael eu hysbrydoli gan Aneirin Karadog, Anni Llŷn ac Ifor ap Glyn.
Cyfrannodd dau aelod o Adran Gymraeg, Prifysgol Abertawe, sesiwn hefyd. Teitl y sesiwn fywiog hon oedd 'Dyddiaduron o'r Dyfodol' dan arweiniad Yr Athro Tudur Hallam a Dr Miriam Jones. Roedd y disgyblion yn amlwg wrth eu bodd!
Mae Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn teithio o amgylch Cymru mewn digwyddiadau rhyngweithiol gydag awduron yn helpu plant i adeiladu straeon a mynegi eu hunain yn greadigol drwy ysgrifennu. Bydd gweithdai pellach ym mis Chwefror a’r Daith yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe i ysbrydoli mwy o awduron y dyfodol!