Cafodd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag Academi Hywel Teifi, y cyfle i gynnal lansiad llyfr arbennig iawn ar Gampws Singleton ar Fawrth y 14eg. Mae Kay’s Anatomy, gan Adam Kay, wedi cael ei addasu i'r Gymraeg gan Eiry Miles, Golygydd Llyfrau Plant i Gyhoeddiadau Rily ac yn digwydd bod yn gyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe.
Gan fod y llyfr yn arbennig o addas i blant ysgol rhwng 9 ac 11 oed, gwahoddwyd ysgol gynradd leol i'r digwyddiad ac felly cafodd dros 60 o blant blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr y fraint o fod yn y lansiad. Roedd yr Ysgol Feddygaeth wedi trefnu nifer o orsafoedd yn arddangos modelau o wahanol rannau o’r corff a chafodd pob disgybl gyfle i weld yr holl fodelau rhyngweithiol ac arbennig hyn gan ddysgu ychydig am bob un.
Roedd staff a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Feddygaeth wrth law er mwyn rhannu ffeithiau am y corff i'r plant ac ateb unrhyw gwestiynau meddygol oedd ganddynt. Daeth Dr Llinos Roberts, sy’n Feddyg Teulu ac yn Arweinydd Dysgu Cymunedol y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion yn y Brifysgol, i rannu ei harbenigedd hefyd a helpu i lywio’r digwyddiad.
Yn ogystal â mwynhau pori trwy’r wledd o lyfrau ar stondin Rily, cafodd y plant lawer o hwyl wrth gystadlu mewn timoedd yn erbyn ei gilydd mewn cwis a luniwyd gan Eiry Miles yn seiliedig ar y llyfr, a bu aelodau’r tîm buddugol yn ddigon lwcus i ennill copi yr un o’r llyfr!
Meddai Eiry Miles, o Gyhoeddiadau Rily:
“Cawsom lawer o hwyl yn lansio Ti a Dy Gorff gyda staff a myfyrwyr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a phlant hyfryd Ysgol Bryn-y-Môr. Cafodd y plant gyfle i gyffwrdd â phob math o offer a gwrthrychau meddygol, pethau sydd fel arfer yn cael eu cadw’n saff dan glo ac roedd hyn yn hynod gyffrous iddyn nhw. Fe wnaethon nhw i gyd yn wych yn y cwis oedd yn seiliedig ar Ti a Dy Gorff ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld eu hymateb cadarnhaol i'r llyfr. Roedd hi’n bleser sgwrsio gyda nhw ar stondin Rily am eu hoff lyfrau a’u harferion darllen. Roedden nhw’n blant hyfryd iawn. Dw i'n siwr bod y profiad o siarad â Dr Llinos a’r myfyrwyr wedi creu tipyn o argraff ar y plant ac y bydd sawl un yn meddwl am ddilyn gyrfa ym maes meddygaeth yn y dyfodol. Roedd hefyd yn braf iddyn nhw wneud y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio o ganlyniad i'r bore arbennig yma a thrwy gyhoeddi Ti a Dy Gorff, bydd plant yn gweld bod modd trafod meddygaeth, technoleg a phopeth trwy gyfrwng y Gymraeg.”