Newydd! Cysylltwch â ni ar-lein
Mae Arian@BywydCampws yn cynnal gwasanaeth dan arweiniad ymgynghorwyr i fyfyrwyr drwy e-bost a sgwrsio byw. Wrth gysylltu â'r gwasanaeth, a wnewch chi sicrhau eich bod chi'n darparu'r holl wybodaeth berthnasol.
Edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch datrys problemau y mae tîm Arian@BywydCampws wedi rhoi at ei gilydd ar sail y cwestiynau mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn eu gofyn. Os na allwch chi ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiynau ymysg y cwestiynau cyffredin yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
Gallwch chi gysylltu â ni drwy sgwrs fyw am ymholiadau cychwynnol y bydd ymgynghorydd yn ceisio eu datrys ar unwaith. Rhaid i chi gadarnhau eich enw a'ch rhif myfyriwr ar ddechrau pob sgwrs fyw. Yn ystod sgwrs fyw, os bydd yn amlwg bod eich ymholiad yn gymhleth a bod angen rhagor o wybodaeth i ymdrin ag ef, efallai y bydd yn rhaid parhau â'ch ymholiad all-lein drwy e-bost.
Peidiwch â chysylltu â ni drwy fwy nag un dull am yr un ymholiad. Mae hyn yn dyblygu gwaith yn ddiangen. Rydyn ni'n dîm bach sy'n ymdrin ag ymholiadau ac achosion ariannu cymhleth ymysg yr holl grwpiau o fyfyrwyr, gan gynnwys darpar fyfyrwyr. Mae'r un tîm hefyd yn asesu pob cais i'r gronfa caledi myfyrwyr. Ein nod yw cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ac amserol. Felly, rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad a'ch amynedd yn fawr.
Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth.