"Mae'r Ysgoloriaeth Noddfa yn fraint sydd wedi gwneud i mi deimlo'n groesawgar iawn yn y wlad hon ac wedi newid fy mywyd, bywyd fy ngŵr a’m dau blentyn ifanc. Ar ôl graddio, rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r sgiliau rydw i wedi'u dysgu ym Mhrifysgol Abertawe i helpu eraill yn y gymuned. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn am y caredigrwydd a'r cymorth rydw i wedi eu derbyn yn ystod fy astudiaethau yma."
- Ana, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd MA

Gwybodaeth Allweddol
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2024, ac mae'n cynnwys:
- Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
- Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell ac enw cyswllt yn nhîm staff y Brifysgol.
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn agor i dderbyn ceisiadau ddydd Mawrth 4 Mawrth 2025.
I gyflwyno cais, e-bostiwch sanctuary@abertawe.ac.uk
Byddwn yn eich cefnogi gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses cyflwyno cais.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4pm ddydd Iau 31 Gorffennaf 2025.