Llun o Aaron Todd

Aaron Todd

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Daearyddiaeth Ffisegol

Pa gyfadran rydych chi'n astudio ynddi?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Adran Ddaearyddiaeth

Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Symudais i Abertawe yn 2016 gyda'm cariad (gwraig bellach!) a oedd yn astudio yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac roeddwn i'n astudio am MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd yn yr Adran Ddaearyddiaeth.Roeddwn i wir wedi mwynhau'r cwrs, ac yn fuan ar ôl cwblhau'r cwrs, gweithiais i i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y tîm Dadansoddi ac Adrodd ar yr Amgylchedd, yn y Brifysgol.Ar ddiwedd 2018, cyflwynais gais llwyddiannus am PhD a ariannwyd gan CNC a KESS 2 (corff yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru) felly gadewais CNC ac ailymuno â'r Adran Ddaearyddiaeth yn adeilad hyfryd Wallace.

Beth yw eich maes ymchwil?
Mae gan Gymru dros 1,300 o hen byllau metel (sy'n hysbys), sy'n amrywio o bwll a oedd yn hobi i rywun am ychydig flynyddoedd i byllau enfawr a fu’n cyflogi cannoedd o bobl am gannoedd o flynyddoedd.Gan fod y rhan fwyaf o'r rhain wedi cau cyn bod angen iddyn nhw lanhau'n gyfreithiol ar ôl cloddio, maen nhw'n parhau i gael effaith ar yr amgylchedd o'u hamgylch.Weithiau rhywbeth gweledol yn unig yw hyn, ond weithiau bydd y pwll yn llawn dŵr, ac yna pan fydd yn llifo allan, mae'n cynnwys metelau, sydd yna'n beryglus i blanhigion ac anifeiliaid bellach i lawr y ffrwd.Tuag 20 mlynedd yn ôl, aseswyd effaith pyllau metel yng Nghymru, ac yna eu trefnu fesul y 50 uchaf, ac mae Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio eu ffordd i lawr o 1.Rwyf wedi bod yn ymchwilio ble mae’r halogiad metel mewn un pwll, Nantymwyn yn Sir Gaerfyrddin, yn dod o hen waith y pwll a'r gwastraff, ac i yn mynd i mewn i'r dyfrffyrdd ac yna i'r brif afon, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys pwyso a mesur llif gwanhad halen, chwistrelliad olrheiniwr a samplu synoptig, ar y cyd â Phrifysgol John Moores Lerpwl.

Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Rwyf wedi dwlu ar afonydd a'r awyr agored erioed, yn ogystal â hen weithfeydd peirianneg, ac wrth weithio gyda CNC, roeddwn yn gweithio'n bennaf ar hen byllau metel ar draws Cymru.Pan gyhoeddwyd y PhD a ariennir roedd yn rhaid i mi gyflwyno cais, ac roeddwn wrth fy modd mai fi oedd yr ymgeisydd llwyddiannus!

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Mae fy ngwaith wedi bwydo i ddealltwriaeth CNC o'r pwll, ac wedi arwain at astudiaethau pellach o ddichonoldeb adfer y safle.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae cefnogaeth fy nhîm goruchwylio sef Dr Iain Roberston a'r Athro Rory Walsh wedi bod yn wych. Mae'r ddau ohonynt wedi treulio llawer o amser yn helpu gydag ymholiadau academaidd a gofal bugeiliol.Y tu hwnt i'r bobl, roedd y costau teithio gan KESS2 yn golygu fy mod yn gallu ymweld â'r pwll plwm ddwywaith y mis am flwyddyn, ac yna ym mis Tachwedd 2022, es i Gynhadledd y Gymdeithas Dŵr Pyllau Ryngwladol yn Seland Newydd, lle enillodd fy nghyflwyniad y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i fyfyrwyr, gan ennill €1,500!

Beth yw'ch cynlluniau at y dyfodol?
Ym mis Gorffennaf, dechreuais weithio fel Ymgynghorydd Amgylcheddol i WSP Ltd.,cwmni amlwladol mawr gyda gwreiddiau yn y DU a Chanada, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o feysydd, amgylcheddol a pheirianegol yn bennaf.Yn fy nhîm, rwyf eisoes wedi gweithio ar lygredd dŵr daear, cyflenwadau dŵr yfed, asesiadau risg ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed, llifogydd, cyngor ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac edrychaf ymlaen at fwy o'r gwaith diddorol ac amrywiol hwn dros y blynyddoedd nesaf.