Awel Haf Pritchard Jones

Awel Haf Pritchard Jones

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Gwaith Cymdeithasol

Rydw i wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd rwy’n gobeithio gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymraeg. Mae cael y cyfle i weithio hefo pobl sydd yn siarad neu'n dysgu Cymraeg yn fraint fawr i mi, gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig o'm hunaniaeth, sydd yn cefnogi fy natblygiad academaidd.

Ar leoliadau gwaith, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae defnyddio’r Gymraeg yn ei wneud wrth i fi helpu pobl ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phobl yn eu mamiaith, gan fod hyn yn cyfoethogi perthynas a phrofiad yr unigolyn. Yn aml, maent yn ymlacio’n gynt i'r sefyllfa ac yn ymddiried yn y berthynas broffesiynol. Mae yna alw mawr am weithwyr Cymraeg eu hiaith gan y Llywodraeth a Chyngor Gofal Cymru.

Rydw i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth Academi Hywel Teifi eleni ar gyfer astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r arian yn gymorth mawr i brynu adnoddau ar gyfer y cwrs fel gwerslyfrau.

Fy hoff elfen o’r cwrs yw cael fy nysgu gan ddarlithwyr sydd â chymaint o brofiad yn y maes, a chael defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rydym yn dysgu o fewn y darlithoedd ar leoliadau gwaith go iawn.