Caitlin Bellamy

Caitlin Bellamy

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
MSc Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd

Rwyf wedi graddio mewn BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil ar gyfer fy ngradd Meistr Trwy Ymchwil, a wnaethpwyd o fewn SWIRL yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn. 100%. Gall Abertawe fod yn lle mor brydferth, yn enwedig yn yr haf. Mae'r bobl yma yn gyfeillgar, ac mae'r staff yn fwy na chymwynasgar.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
Bywyd nos: Mae'r awyrgylch bob amser yn dda, yn enwedig ar noson y myfyrwyr. Does dim i gymharu â nosweithiau allan yng Nghaerdydd a Bryste â noson allan ar Stryd y Gwynt.

Golygfeydd hyfryd: mae'r arfordir a'r traethau yn syfrdanol. Mae Abertawe yn daith fer mewn car o Benrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog.

Digwyddiadau: Yn aml mae digwyddiadau cerddorol yn stadiwm Swansea.com. Mae yna gerddoriaeth fyw dda bron bob penwythnos. Does dim awyrgylch gwell na phan mae gig ym Mharc Singleton yn yr haf.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae'n debyg mai fy nhîm goruchwylio (SWIRL). Maen nhw wedi bod yn anhygoel trwy gydol fy ngradd ôl-raddedig, yn enwedig o ran gwneud addasiadau oherwydd y pandemig. Maen nhw wedi rhoi’r offer i mi ddatblygu sgiliau gweithio’n annibynnol ac wedi rhoi mwy o gyfrifoldeb i mi yn y labordy. Mae hyn yn beth braf gan eich bod chi’n teimlo fel pe baech chi’n gydweithiwr yn y gweithle ac nid yn fyfyriwr yn unig. Maent wedi gwerthfawrogi fy ngwaith yn fawr ac wedi fy nghefnogi i ddod yn wyddonydd ar ddechrau fy ngyrfa ble yr wyf heddiw.

Sut ydych chi wedi darganfod astudio yn ystod y pandemig?
Roedd hi’n anodd ar y dechrau gan roeddwn yn ysgrifennu fy mhrif mhrosiect trydedd flwyddyn pan aethom i'r cyfnod clo cyntaf. Felly ni allwn alw i mewn i'r swyddfa i gael fy ngoruchwyliwr i wirio fy ngwaith. Rwy'n meddwl mai'r gorau a wnaeth ddod allan o hyn oedd bod yn rhaid i mi fod yn fwy annibynnol a meddwl drosof fy hun. Dechreuais fy ngradd ôl-raddedig yn ystod y pandemig, ond unwaith eto roedd fy nhîm goruchwylio yn wych wrth wneud yr addasiadau i'm galluogi i weithio yn y labordy, felly ni chollais unrhyw brofiad ymarferol. Rwy'n meddwl, fel y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y labordy ar hyn o bryd, rydych chi'n addasu iddo ac mae'n eich gwneud chi'n fwy annibynnol ac yn llai dibynnol ar y tîm goruchwylio. Er nad oeddwn i’n gweld y tîm ar y campws, roedden ni’n cael cyfarfodydd wythnosol ac yn cyfathrebu bron yn ddyddiol, felly doedd y gefnogaeth ddim gwahanol i’r gefnogaeth pe na baem wedi bod mewn pandemig.

Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud gradd Meistr trwy Ymchwil ac rwy'n angerddol am ymchwil; er hynny, rydw i wir eisiau gyrfa mewn lleoliad mwy clinigol, mewn fferylliaeth gobeithio, neu efallai hyd yn oed datblygu cyffuriau. Rwy’n dechrau swydd mewn histoleg yn Ysbyty Singleton yn hwyrach y mis hwn, ac rwy’n gyffrous iawn i fod yn ôl mewn amgylchedd labordy! Rwy’n gwneud hyn gyda’r bwriad o ennill rhywfaint o brofiad gwerthfawr mewn lleoliad clinigol a gwneud cais am raglen hyfforddi gwyddonwyr y GIG y flwyddyn nesaf. Gobeithiaf gadw mewn cysylltiad â’r tîm yn Labordy Ymchwil Integreiddiol Mwydod Abertawe (SWIRL), mae fy amser gyda nhw wedi bod yn rhan enfawr o fy addysg ac wedi cael effaith enfawr ar y gwyddonydd ydw i heddiw. Ni allaf aros i weld lle mae eu hymchwil yn eu tywys!

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon Prifysgol Abertawe?
Yn ystod fy ngradd israddedig roeddwn yn rhan o dîm rygbi’r merched. Byddwn yn argymell yn fawr ymuno â thîm chwaraeon, mae'n eich cadw'n heini, eich meddwl yn glir ac rydych chi'n gwneud ffrindiau.

Ydych chi wedi gweithio'n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Yn ystod fy ngradd ôl-raddedig rwyf wedi gweithio i'r brifysgol yn arddangos mewn dosbarthiadau ymarferol israddedig. Rwyf hefyd wedi cael y cyfle i roi dwy ddarlith, a oedd yn brofiad gwych. Gweithiais hefyd yn rhan amser yn Wilkos ynghanol Abertawe. Mae llawer o waith rhan-amser yng nghanol y ddinas, yn enwedig ym maes gwasanaeth cwsmeriaid a lletygarwch.