image

Carlie Andrews

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Nyrsio Oedolion

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

Y traethau, lleoedd hyfryd i fynd am dro, yr hanes

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Rwy'n byw'n lleol ac nid oeddwn am adael y ddinas.Roeddwn yn teimlo bod popeth gerllaw megis ffrindiau a theulu ac roeddwn yn hapus yn y ddinas, felly nid oeddwn yn teimlo bod angen i mi symud i ffwrdd i astudio. Astudiais ym Mhrifysgol Abertawe gynt am fy BA mewn Hanes a'm MA mewn Hanes Modern, felly roeddwn i'n teimlo'n hapus ac yn gyfforddus yn dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer fy BSc mewn Nyrsio Oedolion. Dewisais i nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe gan fod ganddi sgoriau a graddfeydd da yn nhablau'r DU. Fel myfyriwr Cymreig, roeddwn yn gallu cael bwrsariaeth GIG Cymru i astudio nyrsio a wnaeth fy helpu i ariannu fy addysg nyrsio.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

  • Roeddwn yn gallu dysgu a datblygu fy sgiliau cymdeithasol sy'n anodd i mi oherwydd fy niwroamrywiaeth. Rwy'n teimlo fy mod wedi datblygu ac aeddfedu i fod yn berson gwell ers astudio'r BSc Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Mae'r darlithwyr mor gyfeillgar ac mae eu sgiliau ym meysydd nyrsio'n wych.
  • Mae anogaeth y Brifysgol i sicrhau bod nyrsys dan hyfforddiant yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau allgyrsiol megis y Coleg Nyrsio Brenhinol a rolau anhygoel eraill yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol ond hefyd eu sgiliau gyrfa a rhwydweithio.
  • Gyda'r lleoliadau clinigol gwych, mae'r Brifysgol yn galluogi myfyrwyr i gwblhau a gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau clinigol cyn cymhwyso i fod yn nyrsys.

 

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio/beth rydych chi'n mynd i’w wneud ar ôl graddio?

Cyn cwblhau fy nghwrs, cyflwynais gais am swydd fel nyrs gofrestredig drwy GIG Cymru mewn uned ddeialysis lle bûm yn gweithio'n rheolaidd fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd y GIG yn ystod fy astudiaethau.Cefais gynnig y swydd a bellach rwy'n datblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth ym maes arbenigol haemodialysis.Rwy'n dwlu ar fy swydd ac yn mwynhau rhyngweithio â'r cleifion a'm cydweithwyr. Ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio fel nyrs band 5, hoffwn ddychwelyd i Brifysgol Abertawe i astudio am radd Meistr ym maes nyrsio i ddatblygu fy sgiliau clinigol a'm gwybodaeth academaidd a helpu cleifion yn ardal Abertawe. Fy mreuddwyd un dydd yw astudio am PhD mewn nyrsio, ond mae hynny ychydig flynyddoedd i ffwrdd.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Yn bendant! Mwynheais astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael cefnogaeth dda gan fy narlithwyr, y llyfrgell (yn enwedig y Ganolfan Llwyddiant Academaidd), a'r tîm lles. 

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?

Roeddwn yn Fyfyriwr Llysgennad ar gyfer y Coleg Nyrsio Brenhinol.Yn ystod fy ngraddau eraill, roeddwn yn rhan o'r Gymdeithas Hanes am 4 blynedd, ac roedd hynny'n wych.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?

Cefais fynediad at Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd, Y llyfrgell (yn enwedig Coleg y Dyniaethau a'r Gwyddorau Iechyd), Y Gwasanaeth Lles