Charles Bagshaw
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Swoleg
Pam Abertawe?
Ar ôl byw yng Nghernyw, rwyf bob amser wedi dymuno byw mewn dinas brysur wrth gael cyfle i archwilio rhanbarthau gwledig ar yr un pryd. Oherwydd fy angerdd am anifeiliaid a'r byd naturiol
penderfynais i ddilyn cwrs gradd mewn Sŵoleg ac roedd Abertawe’n cynnig y cyfuniad perffaith o fyw mewn tref ac ardaloedd arfordirol i ddianc iddynt. Mae fy 3 hoff gyrchfan yn cynnwys Bae'r Tri
Chlogwyn am y golygfeydd godidog, clwb nos Jack's ar gyfer nosweithiau allan bywiog a Pharc Brynmill ar gyfer hafan ddarllen heddychlon.
Wrth ddewis prifysgol ar gyfer fy astudiaethau, roeddwn yn chwilio'n benodol am un a oedd yn cynnig mynediad hawdd at amgylchedd naturiol, cysylltiadau cryf â diwydiannau, cyfleoedd i arsylwi ar fywyd gwyllt amrywiol a'r gallu i deithio. Yn ffodus, roedd Abertawe yn bodloni pob un o'r meini prawf hyn yn berffaith. Roedd yn cynnig agosrwydd at Benrhyn Gŵyr a Pharc Singleton godidog sy'n gartref i amrywiaeth o rywogaethau adar ac adar dŵr. Yn ychwanegol, roedd y Brifysgol wedi creu partneriaethau â sefydliadau megis "Prosiect Morwellt", gan olygu cyfleoedd gwell i mi ddod i gyswllt ag ecosystemau gwahanol. Rwyf wedi cael cyfle i ddod ar draws amrywiaeth o greaduriaid megis dyfrgwn, ystlumod lleol a phryfed ac rwy'n edrych ymlaen at fy alldaith i Borneo.
Mae Abertawe wedi bod yn ddewis perffaith i mi archwilio rhyfeddodau naturiol y Deyrnas Unedig a'r tu hwnt. O ddod ar draws dyfrgwn a rhywogaethau ystlumod cyfareddol yn Ystangbwll i gydweithredu â grŵp cadwraeth "Prosiect Morwellt" ar Ynys Wyth, mae fy archwilio wedi bod yn gyfoethogol ac yn wobrwyol. Wrth i mi aros yn awyddus am y daith i Borneo sydd ar y gweill, rwy'n myfyrio ar y momentau amlwg ar fy nhaith academaidd, yn enwedig y cysylltiadau amhrisiadwy â chyd-fyfyrwyr a phrofiadau trawiadol gyda Phrosiect Morwellt. Ar ôl graddio, mae fy nyheadau'n ymwneud â chyfathrebu gwyddonol, wedi fy ysbrydoli gan fy mrwdfrydedd am addysgu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd am faterion cadwraeth.
I'r rhai sy'n chwilio am brifysgol sy'n cynnig bywyd myfyrwyr bywiog, cyfleustodau trefol, mynediad i natur a rhagolygon gyrfa addawol, rwy'n cymeradwyo Abertawe yn llawn. Mae fy amser yma wedi bod yn gofiadwy am dwf personol, cyflawniadau nodedig megis cydweithredu â pherson enwog ar ymdrechion cadwraeth a, hyd yn oed, cwblhau Hanner Marathon Abertawe. Peidiwch ag oedi - dechreuwch ar eich taith Abertawe nawr!
Cymryd rhan mewn Chwaraeon a Chymdeithasau
Do, ymunais â'r Gymdeithas Sgwba-blymio a Chadwraeth a des i'n llysgennad y cyfryngau cymdeithasol dros y Brifysgol.
Lleoliad Gwaith (Blwyddyn mewn Diwydiant)
Ar gyfer fy mlwyddyn mewn diwydiant, gweithiais i'r elusen gadwraeth "Prosiect Morwellt". Ein nod yw gwarchod a chadw dolydd morwellt ledled y byd. Cymerais ran mewn gweithgareddau gwaith maes,
gan gynnwys snorcelio i ddolydd morwellt yn y Deyrnas Unedig a chasglu hadau i'w plannu yn y dyfodol. Hefyd, trefnais a chynlluniais brosiect realiti rhithwir mawr (ffilmio a chynhyrchu), gan
drefnu i rywun enwog wneud y trosleisio.
Byw mewn preswylfeydd
Roeddwn i’n byw yn Langland yn ystod fy mlwyddyn gyntaf a Rhosili ar gyfer lleoliad gwaith yr haf. Roedd y ddau brofiad yn anhygoel, yn llawn adegau cofiadwy a llawer o chwerthin.