Dr. Caroline Zwierzchowska-Dod

Dr. Caroline Zwierzchowska-Dod

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Addysg

Ym mha gyfadran rydych chi'n gwneud eich gwaith ymchwil?

Roeddwn i yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod a oedd newydd gael ei sefydlu. Fi oedd y myfyriwr PhD cyntaf i raddio ar ôl astudio yn yr adran.

Sut daethoch chi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Dilynais i fy ngoruchwyliwr, yr Athro Janet Goodall, a symudodd i Brifysgol Abertawe. Roeddwn i o'r farn bod y berthynas â'r goruchwyliwr yn bwysicach na'r man astudio yn achos PhD, felly des i hefyd! Daeth fy PhD ar ôl i fi gwblhau dwy radd flaenorol mewn Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, a dilyn gyrfa fel pennaeth ysgol gynradd.

Beth yw eich pwnc ymchwil?

Teitl fy nhraethawd ymchwil yw “Books, Babies and Bonding” sy'n trafod effaith Dolly Parton's Imagination Library, rhaglen sy'n rhoi llyfr bob mis i fwy na dwy filiwn o blant hyd at bump oed. Ystyriodd fy ymchwil brofiadau teuluoedd o dderbyn llyfrau am ddim a chyrhaeddiad addysgol plant sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen.

Beth a wnaeth ysgogi eich diddordeb yn y maes hwn?

A minnau'n rhiant ac yn gyn-athro/bennaeth, rwyf wedi gweld fy mhlant fy hun a'r rhai hynny a oedd dan fy ngofal yn mwynhau profiadau cynnar gyda llyfrau. Pan gafodd y prosiect ymchwil hwn ei hysbysebu, ces i fy nenu tuag ato gan ei fod yn cynnwys sawl peth perthnasol i fy mhrofiadau proffesiynol a phersonol. Mynegodd Tawney (1931) y syniad y dylai'r genedl ddymuno i bob plentyn yr hyn y byddai rhiant doeth yn ei ddymuno i'w blant ei hun. Cynigiodd y prosiect hwn gyfle i mi archwilio'r ymchwil y tu ôl i fy ngwerthoedd personol am bwysigrwydd darllen gyda phlant ifanc a rhannu llyfrau â nhw ac i archwilio barn rhieni eraill a'r effeithiau ar blant.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Roedd yn hynod bwysig i mi fod fy astudiaeth ddoethurol yn cael effaith ar y byd go iawn, felly roedd gweithio ar brosiect a fyddai'n rhoi gwybodaeth bwysig i elusen ynghylch a yw ei buddsoddiad wedi newid bywydau teuluoedd a phlant, a sut mae wedi gwneud hynny, yn arbennig o ddeniadol i mi. Mae fy ymchwil eisoes wedi arwain at fuddsoddiad gan gyngor lleol yn yr Imagination Library ac yn dilyn creu deunyddiau i ennyn diddordeb y cyhoedd yng nghanfyddiadau fy ymchwil, rwy'n gobeithio y bydd rhagor o lyfrgelloedd o'r fath yn agor ledled y DU a'r tu hwnt.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Drwy gydol y pandemig, roedd gennym ni grŵp ymchwil ôl-raddedig ar-lein difyr a chefnogol a wnaeth ein cadw mewn cysylltiad â'n gilydd o bedwar ban byd.

Beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol?

A minnau'n ymchwilydd cysylltiol gydag Abertawe, rwy'n gobeithio y bydda i'n gallu cymryd rhan mewn prosiectau sydd o ddiddordeb, gan ddefnyddio fy sgiliau fel gwyddonydd cymdeithasol i sefydlu gwasanaeth ymgynghori preifat.