Dylan Beynon-Standen

Dylan Beynon-Standen

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Ffiseg Ddamcaniaethol

Pam dewisais i Brifysgol Abertawe
Dewisais i astudio fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd ei staff ymchwil ardderchog, ei lleoliad delfrydol a'i hawyrgylch croesawgar. Roedd y cwrs ffiseg ddamcaniaethol yn ymddangos yn arbennig fel gradd uchel ei pharch a addysgir gan arbenigwyr blaenllaw o grŵp Ffiseg Ddamcaniaethol Prifysgol Abertawe. Mae'r grŵp hwn, a sefydlwyd gan y ffisegydd damcaniaethol enwog, David Olive, yn glodwiw yn fyd-eang am ei ymchwil sy'n torri tir newydd.

Uchafbwyntiau fy nghwrs – BSc Ffiseg Ddamcaniaethol
Gwnaeth y cwrs ragori ar fy nisgwyliadau mewn llawer o ffyrdd, ond fy hoff rannau oedd:
• Addysgu Eithriadol: Oherwydd ymroddiad ac arbenigedd staff y Gyfadran, roedd dysgu'n ddifyr ac yn wobrwyol.
• Modiwlau Heriol: Roedd cyrsiau fel ‘Gravity’ a ‘Mathematical Methods’ yn ddiddorol ac yn ysgogol yn ddeallusol.
• Traethawd Hir Blwyddyn Olaf: Rhoddodd y prosiect hwn gipolwg i sut brofiad fyddai ymwneud â gradd Meistr neu raglen PhD, drwy ganiatáu rhyngweithio un i un ag ymchwilwyr o'r radd flaenaf.

Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe
Mae gan Brifysgol Abertawe gymuned myfyrwyr fywiog a chyfeillgar. Drwy gydol fy nghwrs tair blynedd, ni chwrddais i ag unrhyw un doeddwn i ddim yn ei hoffi. Drwy fyw mewn neuadd preswyl, gwnes i ffrindiau am oes. Mae undeb y myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth eang o gymdeithasau; Ymunais i â'r cymdeithasau Ffiseg a Dringo Creigiau, lle cefais rai o brofiadau cymdeithasol gorau fy mywyd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Oherwydd yr addysg ragorol a dderbyniais ym Mhrifysgol Abertawe, rwy'n barod i barhau â'm taith academaidd drwy ymgymryd â gradd Meistr mewn Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Hydref eleni. Fy nod yw ennill PhD a bod yn ymchwilydd ym maes ffiseg ddamcaniaethol.

Argymhelliad
Byddwn i'n argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy'n frwdfrydig am ffiseg, yn awyddus i ddysgu ac yn chwilfrydig am y bydysawd ar bob graddfa. Mae Prifysgol Abertawe'n darparu amgylchedd rhagorol i chi feithrin eich sgiliau academaidd a phersonol.