Elinor Banks

Elinor Banks

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Addysg a Seicoleg

Pam dewisoch chi Abertawe?

Fe wnes i ddewis Abertawe gan i mi syrthio mewn cariad â fy nghwrs a'r lleoliad. Mynychais y Diwrnod Agored ac yno fe wnes i gwrdd â rhai myfyrwyr presennol ar y cwrs a oedd mor angerddol amdano fel ei fod wedi fy nghyffroi'n fwy i fynd i'r brifysgol ac astudio'r cwrs. Roedd y modiwlau oedd ar gael yn ddiddorol iawn ac roedd bod yn fyfyriwr cyd-anrhydedd yn golygu bod Abertawe yn eithaf unigryw yn yr hyn yr oedd ar gael.

Beth oedd eich hoff fodiwlau?

Rwyf wedi profi ystod o fodiwlau gwahanol ar draws Addysg a Seicoleg. Un o fy modylau mwyaf pleserus oedd Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn Addysg gan fod hwn yn rhywbeth rwy’n angerddol amdano ac rwyf wrth fy modd yn gallu helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Modiwl arall a fwynheais oedd Gwella Dysgu gyda Thechnolegau Digidol, a oedd yn addysgiadol gan y defnyddir technoleg mor eang erbyn hyn. Rhoddodd y modiwl wybodaeth i mi ar sut i ddefnyddio technoleg yn effeithiol o fewn Addysg.

Beth yw eich diwrnod arferol fel myfyriwr? Fel myfyriwr Cydanrhydedd, ydych chi'n gallu cydbwyso'r ddau bwnc?

Y gwahaniaeth rhwng Coleg a Phrifysgol yw’r lefel o annibyniaeth. Yn y Brifysgol, y chi sy'n gyfrifol am eich gwaith eich hun a sicrhau ei fod yn cael ei wneud. Mae seminar yn fwy rhyngweithiol oherwydd gallwn gael trafodaeth am yr hyn rydym wedi bod yn ei ddysgu yn y darlithoedd. Yn y darlithoedd dysgir y wybodaeth am y modiwl i chi.

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, mae'n bosibl cydbwyso Addysg a Seicoleg. Mewn rhai semester efallai y byddai’r cydbwysedd wedi edrych ychydig yn wahanol gan fod gen i fwy o fodiwlau Addysg neu Seicoleg.

Mae cydbwysedd o gymdeithasu a gweithio yn y brifysgol. Mae amser i bopeth. Ond i mi roedd angen bod yn drefnus ac aros ar ben fy ngwaith. Mae cymdeithasau a chymdeithasu o fudd i mi oherwydd gallwn gael seibiant o fy astudiaethau a rhoddodd gymhelliant i mi gan fod gennyf rywbeth i weithio tuag ato.

Ydych chi'n ymwneud ag unrhyw glybiau a chymdeithasau?

Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r gymdeithas pêl-rwyd a'r gymdeithas tennis gan chwarae ar lefel gymdeithasol. Roedd hyn yn bleserus gan ei fod yn rhoi seibiant braf i mi o'm hastudiaethau unwaith yr wythnos i wneud camp roeddwn i'n ei charu. Rwy'n argymell i eraill ymuno â chymdeithas hefyd.

Ar ôl ychydig flynyddoedd o dimau prifysgol (Varsity) ddim yn digwydd oherwydd Covid, roeddwn i'n ffodus i'w brofi. Mae wir yn ddiwrnod gwych gweld myfyrwyr yn dod at ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd i chwarae chwaraeon. Mae'r rygbi yn stadiwm Swansea.com yn awyrgylch anghredadwy hefyd.

Beth yw’r peth gorau am fyw yn Abertawe?

Y peth gorau am fyw yn Abertawe yw'r traeth. Dyma'r lle gorau i gymdeithasu â ffrindiau, mynd am wac ac ymlacio. Os ydych chi'n newydd i Abertawe, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archwilio'r ardal gan ei bod mor brydferth. O Benrhyn Gŵyr, i’r Mwmbwls, Mynydd Cilfái a Gerddi Clun, mae cymaint i’w wneud a’i archwilio.

Pa awgrymiadau fyddech chi'n eu rhoi i fyfyriwr sy'n dechrau yn y brifysgol?

Ar ôl tair blynedd, rwyf wedi cael nifer o awgrymiadau defnyddiol yn y Brifysgol. Mae mor bwysig mynychu darlithoedd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith. Efallai nad yw colli un ddarlith yn ymddangos fel diwedd y byd, ond ar ôl i chi golli un, mae mor hawdd colli mwy a mynd ymhell ar ôl yn y gwaith. Mae'n llawer haws mynychu darlithoedd a gwneud eich gwaith annibynnol.

Dywedwch wrthym am eich profiadau llety ym Mhrifysgol Abertawe.

Rwyf wedi cael amrywiaeth o brofiadau byw tra yn y brifysgol. Yn fy mlwyddyn gyntaf roeddwn yn byw mewn neuaddau ar Gampws y Bae, sydd mor gymdeithasol a hwyliog. Rwy'n argymell yn fawr bod myfyrwyr newydd yn ceisio mynd allan o'u hystafell cymaint â phosibl a chwrdd â phobl newydd. Yn ystod yr ail flwyddyn, symudais i mewn i neuaddau preifat. Ar gyfer fy mlwyddyn olaf, roeddwn yn byw mewn tŷ oddi ar y campws gyda rhai o fy ffrindiau, a oedd yn newid braf gan fy mod yn dewis byw gyda fy ffrindiau. Mae fy holl brofiadau llety wedi bod yn bleserus.