Emily Ellis

Emily Ellis

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Ffarmacoleg Feddygol

Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd y lleoliad anhygoel a'r safon uchel o addysg.

Mae fy nghwrs yn delio gyda'r wyddoniaeth sydd y tu ôl i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw a sut maent yn trin clefydau. Fy hoff ran o'r radd yw dysgu am gyffuriau anghyfreithlon a sut mae'r rhain yn gweithio ac yn effeithio ar bobl.

Mae'r cyfle i astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi mantais enfawr i mi gael mwy o gyfleoedd yn fy ngyrfa trwy wella fy nealltwriaeth o’r pwnc ar draws y ddwy iaith. Mae hefyd cyfle i fanteisio ar gefnogaeth ariannol gydag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi. Mae hefyd cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg drwy bethau fel tiwtoriaid sy'n siarad Cymraeg ac adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs - hyn oll yn gwneud pethau’n haws iti! Yn ogystal mae’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer bywyd myfyrwyr fel y Gymdeithas Gymraeg (GymGym) wedi bod yn arbennig ac o gymorth i fwynhau bywyd yma a dod i 'nabod pobl. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn llawn pobl garedig sydd eisiau dy helpu di yn y Brifysgol ac ymhellach. Mae llwyth o gymdeithasau eraill i dy ddiddanu hefyd, o’r celfyddydau i chwaraeon a mwy!

Rydw i wedi manteisio ar nifer o gyfleoedd yn y Brifysgol oherwydd fy Nghymreictod gan gynnwys bod yn rhan o Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2021. Roedd hyn yn gyfle anhygoel er mwyn cael y cyfle i gyfrannu at neges bwerus iawn sydd wedi’i rhannu dros y byd. Fe wnaeth y profiad roi hyder imi allu trafod materion pwysig gyda phobl eraill er mwyn creu cymuned well o'm cwmpas.

Mae dewis Prifysgol Abertawe wedi bod yn benderfyniad gwych ac yn brofiad bythgofiadwy hyd yma!