Llun o Gargi Naha

Gargi Naha

Gwlad:
India
Cwrs:
PhD Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd

Ym mha Gyfadran rydych chi'n astudio?

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Rwy'n dal i gofio gweld poster croeso yn ‘Bangla’ yn agos i Dŷ Fulton yn gynnar yn 2022, yn ystod fy nyddiau cynnar fel swyddog ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. A bod yn onest, gwnaeth y poster hwnnw i mi deimlo'n hapus iawn, roeddwn i'n teimlo bod pobl yn fy ngweld a'm cynnwys i.

Wedyn, yn hwyr yn 2022/ yn gynnar yn 2023, gwelais i alwad am ysgoloriaeth ymchwil PhD gan yr ESRC. Bryd hynny roeddwn i'n gwybod mai dyna oedd fy nghyfle i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Felly, cyflwynais i gais ac ar ôl tair rownd, cefais fy newis ar gyfer dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil PhD.

Beth yw eich maes ymchwil?

Gan ddefnyddio dyluniad archwilio dilyniannol yn seiliedig ar ddulliau cymysg, nod fy ymchwil yw archwilio rôl rhywedd ac amddifadedd ym mhrofiad pobl ifanc o ofal brys ar gyfer asthma acíwt a'r canlyniadau yn sgîl mynd i Adrannau Achosion Brys yng Nghymru.
Bydd yr astudiaeth yn dechrau gydag adolygiad cwmpasu a ddilynir gan waith i gyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu'r data ansoddol sy'n ymwneud â phobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed sydd â hanes o fynd i'r adran achosion brys ar gyfer gofal asthma acíwt, eu rhieni, darparwyr gofal iechyd asthma a staff ysgolion yng Nghymru. Bydd canfyddiadau’r cyfweliadau ansoddol a'r grwpiau ffocws yn llywio rhan ansoddol yr astudiaeth ac yn helpu i fireinio'r cwestiwn ymchwil er mwyn dadansoddi data cysylltiedig cyffredinol o'r Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL). Yn olaf, caiff y canfyddiadau ansoddol a meintiol eu syntheseiddio i helpu i greu'r sylfaen dystiolaeth i ddatblygu cynllun triniaeth mwy personol i bobl ifanc ag asthma.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Cefais fy ngeni yn India a gwnes i hyfforddi fel meddyg meddygol ac rwyf wedi gweld gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn sawl lle ac ar sawl ffurf.
Yn gyffredinol, mae'r sgwrs am iechyd menywod fel arfer yn gyfyngedig i iechyd atgenhedlu a rhywiol. Felly roeddwn i am i'm hymchwil ganolbwyntio ar rywbeth arall ar wahân i hynny, gan fod iechyd menywod yn gyfuniad o holl systemau organau corff menyw, yn hytrach nag iechyd atgenhedlu a rhywiol yn unig.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?

Mae'n bwysig nodi bod asthma yn cael ei gydnabod fel cyflwr sy'n ymateb yn dda i driniaeth ddydd, h.y., gyda rheolaeth a thriniaeth effeithiol, gellid atal canran o dderbyniadau brys mewn perthynas ag effeithiau asthma sydd wedi gwaethygu i raddau acíwt.
Felly, gobeithiaf y gall fy ymchwil helpu i greu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i ddatblygu cynllun mwy personol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy'n byw gydag asthma. Bydd hyn yn ei dro'n helpu i leihau'r achosion lle gwelir asthma'n gwaethygu i raddau acíwt, gan leihau’r pwysau ar Adrannau Brys y GIG sydd eisoes yn gweithio i hyd eithaf eu gallu.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
I mi y peth gorau am gynnal fy ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yw'r ffaith fy mod i'n cael gweithio gyda thîm goruchwylio gwych sy'n cynnwys arbenigwyr o is-arbenigeddau amrywiol ym maes iechyd cyhoeddus megis gwyddor data iechyd, diogelu iechyd, hyrwyddo iechyd a systemau iechyd.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwyf yn gobeithio dod yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus i'r GIG sy'n chwarae rôl weithgar yn y byd academaidd yn ogystal ag ymuno â'r WHO neu UN Women er mwyn helpu i ddatblygu polisïau iechyd sy’n ystyriol o fenywod.