llun o Jessica

Jessica Bain

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

Fy hoff beth am Abertawe yw'r traethau'n bendant. Er efallai fy mod i'n bleidiol oherwydd dyma fy nghartref, rwyf wir yn credu bod gan Abertawe rai o'r traethau gorau yn y byd, ac mae nhw ar ein stepen drws! Yn fy marn i, does dim byd gwell na cherdded ar hyd y traeth ac ymweld â siop hufen iâ Joe's!

Rwyf hefyd yn dwlu ar bobl Abertawe. Mae Cymru'n adnabyddus am fod yn gartref i bobl garedig a ble bynnag mae rhywun yn mynd yn Abertawe, mae'n teimlo fel bod rhywun yna'n aros i gael sgwrs neu'n gwenu arnoch chi.

Rwy'n dwlu ar amrywiaeth Abertawe. Gallech chi fod yng nghanol unlle ar benrhyn Gŵyr, wedi ymgolli'n llwyr ym myd natur, ac yna, o fewn hanner awr, gallech chi fod yng nghanol y ddinas yn siopa neu'n gwylio sioe yn yr arena newydd!

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais i astudio yma oherwydd dyma fy nghartref ac rwy'n dwlu arno. Ces i fy magu yn Abertawe ac rwyf wir yn credu mai dyma un o'r lleoedd mwyaf prydferth yn y byd. Nid wy'n credu y gallwn i fyw rhywle heb arfordir nawr, rwy'n mwynhau treulio amser ar y traeth gormod! Roeddwn i hefyd yn gwybod bod gan Brifysgol Abertawe enw rhagorol ar gyfer ei Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dyma pam roedd fy mhenderfyniad i aros gartref yn llawer haws.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Rwy'n dwlu ar ba mor gyfeillgar yw'r cwrs Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n teimlo y gallech chi ddod i adnabod y staff a'ch cyd-fyfyrwyr ar y cwrs hwn, yn enwedig ar ddyddiau pan fydd gweithdai neu hyfforddiant sgiliau clinigol gennych. Mae'n ymddangos fel bod y darlithwyr bob amser mor angerddol am yr hyn maen nhw’n ei addysgu, sydd yn ei dro yn gwneud i mi deimlo'n frwdfrydig hefyd. Mae'n wych hefyd gael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wedi cael llawer o brofiad clinigol, gan y byddan nhw’n rhannu hanesion a phrofiadau personol fel rhan o'u haddysgu academaidd. 

Mae hi hefyd yn ymddangos bod astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe'n agor llawer o ddrysau. Mae bod yn rhan o'r Academi Arweinyddiaeth gyda chyd-fyfyrwyr gofal iechyd wir wedi agor drysau i mi ac, yn ddiweddar, es i i Wasanaeth Coffa Florence Nightingale yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Llundain, a fydd yn un o uchafbwyntiau fy ngradd nyrsio yn bendant.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Ar ôl i mi raddio, hoffwn i deithio am fis neu ddau cyn dechrau fy swydd ddelfrydol ym maes gofal iechyd meddwl acíwt. Rwyf mor angerddol am y maes hwn ac rwyf am dreulio fy ngyrfa yn gwneud y byd yn lle mwy caredig a deallgar, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Fy mreuddwyd yw mynd i gynadleddau a'u harwain o bosib ac efallai ymgymryd ag astudiaethau pellach yn ddiweddarach. Ond yn gyntaf, rwy’n awyddus i deithio a gweld rhywle newydd cyn i mi fwrw gwreiddiau!

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?

Byddwn, er mai dyma fy nghartref, gallaf weld pam byddai cynifer o bobl am ddod yma. Mae Abertawe'n cynnig rhywbeth i bawb, boed hynny'n harddwch naturiol Gŵyr, cerdded dros dwyni tywod neu nofio yn y mor, neu fwynhau noson allan ar Stryd y Gwynt! Mae Abertawe'n llawn pobl garedig ac mae'r Brifysgol yn teimlo fel cymuned mor agos, rydych chi'n teimlo fel eich bod chi'n rhan ohoni cyn gynted ag y byddwch chi'n cyrraedd.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?

Rwyf wedi gweithio'n rhan amser drwy gydol fy ngradd hyd yn hyn. Rwy'n gweithio fel gofalwr sy'n cyd-fynd â'm gradd nyrsio. Mae hi wedi bod yn anodd rheoli fy amser weithiau, ond rwy'n credu bod y sgiliau rwyf wedi eu dysgu ar y cwrs yn cydweddu â’m swydd ac mae hyn wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus yn fy rôl.