Marta Sanchez Miranda

Marta Sanchez Miranda

Gwlad:
Sbaen
Cwrs:
MSc Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg

Rhoddodd Prifysgol Abertawe y cyfle i mi ddechrau fy ngyrfa mewn nanowyddoniaeth. Hefyd rhoddodd fy ngradd Meistr gyfle i mi weithio'n annibynnol gan fy arfogi â sgiliau rheoli prosiect a meddwl yn feirniadol.

Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe?

Fy hoff beth fel myfyriwr oedd ymagwedd ymarferol Prifysgol Abertawe at addysgu. Yn lle disgwyl ichi ddysgu gwaith cwrs ar eich cof, byddech chi'n cael eich herio a'ch annog i'w ddatrys yn annibynnol. Roedd y sgiliau a roddodd fy ngradd Meistr imi hefyd yn canolbwyntio ar ddiwydiant a sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan wneud myfyrwyr yn fwy tebygol o ddod o hyd i swydd wedi hynny.

Yn ail, roeddwn i wir yn mwynhau'r awyrgylch rhyngwladol yn y Brifysgol. Credaf ei bod hi'n galonogol iawn cael cyfle i rannu eich profiad fel myfyriwr â phobl o bob cwr o'r byd. Yn bendant gwnaeth fy annog i ehangu fy nghydweithrediadau a chwilio am heriau byd-eang.

Yn olaf ond nid yn lleiaf, roedd Abertawe’n ddinas groesawgar iawn yn fy marn i. Roedd y ffaith bod y lle’n eithaf bach yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i le yn y gymuned, hyd yn oed y tu allan i’r brifysgol.

Pam wnest ti ddewis astudio dy radd yn Abertawe?

Roedd gennyf syniad penodol iawn o'r hyn roeddwn i am ei astudio ar gyfer fy ngradd Meistr. Roeddwn i hefyd yn benderfynol o ymgymryd â'm hastudiaethau ôl-raddedig dramor (rwy'n dod o Sbaen yn wreiddiol). Yr hyn a'm sbardunodd i ddewis Prifysgol Abertawe oedd y gwaith cwrs a gynigiwyd gan fy ngradd Meistr (Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg). Roedd pob pwnc yn ddiddorol iawn ac roeddwn i wir am astudio gradd y byddwn yn mwynhau ei hastudio.

Fyddi di'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?

Yn bendant byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr y dyfodol. Mae'r Brifysgol yn buddsoddi mewn cyfleusterau i helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn ac mae'n darparu cymuned gyfeillgar a chroesawgar ac mae'n cynnig graddau arloesol.

Sut gwnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa?

Fy ngradd oedd y cam cyntaf tuag at arbenigo mewn nanodechnoleg. Gwnaeth fy ngradd Meistr i mi sylweddoli mai nanowyddoniaeth oedd y maes roeddwn i am weithio ynddo ac agorodd y drws i mi astudio PhD ar ôl hynny. Yn fy swydd bresennol fel Peiriannydd Nanogynhyrchu, rwy'n defnyddio'r sgiliau a enillais drwy fy ngradd Meistr.

Ble rwyt ti'n gweithio nawr? Beth yw dy yrfa bresennol?

Rwy'n gweithio fel peiriannydd nanogynhyrchu i gwmni sy’n datblygu prosesyddion cwantwm yn y diwydiant lled-ddargludyddion. Fel rhan o'm swydd, rwy'n dylunio ac yn cynhyrchu'r sglodion a ddefnyddir fel sail i brosesyddion cwantwm, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu eiddo deallusol, cyhoeddiadau gwyddonol ac ehangu ein rhwydwaith cydweithredol. Mae'n gyffrous cael y cyfle i gyfrannu at ddatblygu cyfrifiadura cwantwm. Mae gan gyfrifiadura cwantwm y gallu i ddatrys problemau sy'n hynod anodd i gyfrifiaduron confensiynol. Gellid defnyddio pŵer cyfrifiadurol mewn bron pob agwedd ar ein bywydau a gallai cyfrifiadura cwantwm helpu i ddatrys heriau mewn meysydd mor amrywiol â dylunio meddyginiaeth neu seiberddiogelwch.

Pa gyngor byddet ti’n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â thi?

Ewch amdani! Mae nanodechnoleg yn faes ymchwil gweddol newydd, gyda chymwysiadau mewn meysydd amrywiol, megis meddygaeth, biofeddygaeth, lled-ddargludyddion neu ddyfeisiau cwantwm. Mae'n cynnig atebion i broblemau byd-eang, sy'n ei gwneud yn yrfa gyffrous iawn.