Md Nazmus Sakib

Md Nazmus Sakib

Gwlad:
Bangladesh
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Oherwydd bod gen i berthynas ag uwch swyddogion yn y diwydiant hwn a oedd wedi astudio LLM mewn Cyfraith Forol ym Mhrifysgol Abertawe a chyn-fyfyrwyr y sefydliad blaenllaw hwn, fe wnes i sylweddoli bod y coleg hwn yn cynnig y cwrs perffaith, lle byddaf yn dilyn cyrsiau gan ddarlithwyr sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y diwydiant. Mae'n cynnig cyrsiau cyflawn sy'n mynd y tu hwnt i addysg draddodiadol, gan ennill enw da iawn i'r coleg hwn yn y diwydiant llongau.

Dw i’n dod o Bangladesh a chyn dod yma roeddwn i'n gweithio fel Swyddog Morol Masnachol i Gwmni Llongau sydd ag enw da. Ar ôl cwblhau'r cwrs, dw i’n awyddus i weithio ar ochr gyfreithiol y diwydiant llongau.

Mae gan IISTL yn Abertawe gyfadran eithriadol. Mae'r darlithwyr yn ystyried nodau proffesiynol pob myfyriwr hefyd. Mae'r Modiwl Cyflogadwyedd yn cael ei gynllunio gan y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd gyfan, a bob wythnos, mae myfyrwyr yn cael cyfle i rwydweithio â gweithwyr llwyddiannus yn y diwydiant morol.

Mae’r darlithwyr yno bob amser i'n helpu drwy gynnig cynhesrwydd a charedigrwydd. Roedd arddulliau addysgu ein darlithwyr yn addas i bawb oherwydd y ffaith bod y darlithoedd wedi'u cynllunio i ddarparu nid yn unig ar gyfer cyn-raddedigion ac ymarferwyr y gyfraith, ond hefyd i'r rhai heb wybodaeth gyfreithiol flaenorol, fel fi. Mae fy holl fodiwlau yn gwbl forwrol sef i) Morlys ii) Siarteri Llogi Llongau iii) Cludo Nwyddau ar y Môr, ar y Tir, ac yn yr Awyr iv) Yswiriant Morol, ond fy hoff fodiwl yw Morlys, oherwydd o gychwyn cyntaf fy ngyrfa forol roedd fy niddordeb pennaf mewn ymateb i Anafedigion a digwyddiadau dilynol fel arestio ar longau, Achub, a materion Cyffredinol sy'n arwain at ymgyfreitha os bydd anghydfod yn codi rhwng y rhanddeiliaid.

Mae'r tîm gyrfaoedd o gymorth mawr, ac maen nhw'n barod i helpu bob amser. Maen nhw'n mynd ati'n rheolaidd i gynnal gweithdy yn edrych ar CVs a’r llythyr sy’n cyd-fynd, seminarau ar gyngor yn ogystal â chyfarwyddyd gyrfaoedd o bob math ar gyfer chwilio am swyddi, sef y profiad anoddaf ar ôl gorffen astudio.

Roedd dilyn y cwrs Cyfraith Forol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle i mi gael dealltwriaeth gyfreithiol o'r sector morol. Mae gan y rhaglen LLM enw da yn rhyngwladol ym maes cyfraith forol oherwydd ei bod yn darparu rhagoriaeth academaidd yn yr agweddau mwyaf beirniadol ac ymarferol ar raglen ôl-raddedig. Fe wnaeth y cwrs fy helpu i gyfuno profiad morwrol â gwybodaeth gyfreithiol a dw i bellach mewn sefyllfa gref lle byddaf yn gallu gwneud safiad yn y maes cyfreithiol morol. Yn olaf, roedd cael myfyrwyr o'm cwmpas o wahanol genhedloedd yn wych o ran fy helpu i sefydlu rhwydwaith rhyngwladol o gysylltiadau.

Dw i wedi dewis modiwl di-gredyd 'Dadlau mewn Ffug Lys Barn' a dw i’n paratoi ar gyfer y rownd gychwynnol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i mi ennill sgiliau fel meddwl yn feirniadol, ymchwil gyfreithiol, drafftio cyfreithiol a bydd yn cyfoethogi fy sgiliau cyfathrebu.

Fy hoff bethau am astudio yma yw darlithoedd gan siaradwyr gwadd sy’n cael eu cynnal bron bob dydd Mercher. Dw i wedi cael y cyfle i wrando ar amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn y diwydiant llongau. Yn ail, amrywiaeth y cwrs. Dw i wedi cwrdd â myfyrwyr o wahanol rannau o'r byd ac o wahanol ddisgyblaethau. Yn olaf, darlithoedd a staff y brifysgol, mae’n teimlo fel teulu mawr. 

Mae Abertawe yn lle perffaith i fyw, astudio a threulio amser. Mae llawer o bethau i'w gwneud yn yr ardal, gan gynnwys milltiroedd o draethau gyda thywod euraidd, cestyll canoloesol, siopau crefft, bryniau ymdonnog, ac amgueddfeydd o'r radd flaenaf. Mae rhywbeth at ddant pawb yn y ddinas, o weithgareddau awyr agored i fwyd tramor, canolfannau siopa, a bywyd nos bywiog.

Byddwn i'n cynghori ymchwilio i'r rhaglenni sydd o ddiddordeb i rywun, gwirio'r meini prawf mynediad, a chysylltu â Phrifysgol Abertawe i gael unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen os oes rhywun yn ystyried gwneud cais i ddod yma. Dw i’n siŵr y bydd pawb wrth eu bodd yma. Mae yna lawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored a phrofiadau diwylliannol. Gall myfyrwyr ymuno ag amrywiaeth o sefydliadau, cymdeithasau a thimau chwaraeon yn y ddinas, sydd â sin fywiog i fyfyrwyr.