Natalie Griffiths

Natalie Griffiths

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Gwyddor Barafeddygol

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

Fel rhywun sy'n argymell bod yn yr awyr agored, rwyf wrth fy modd bod penrhyn Gŵyr ar garreg y drws; mae cymaint i mi ei wneud ac i mi mae'n gyfle gwych i ddiffodd fy 'Ymennydd Prifysgol' a chael amser i mi fy hun yn yr awyr agored gan ganolbwyntio ar fy lles meddwl. Mae gan Abertawe dipyn o bopeth: Mae'r elfen wledig a chanol y ddinas sy’n brysur. Y môr a'r traethau hardd. Mae ganddo fwyd da, marchnadoedd da ac mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser. O safbwynt bwyd hefyd, dw'i erioed wedi bod yn ymwybodol o gymaint o fwytai Figan mewn ardal mor fach.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

I mi, roedd gen i radd eisoes, felly roedd fy nghyfleoedd cyllido wedi'u cyfyngu o ran dilyn cwrs arall. Abertawe ddaeth i'r brig gyda chyfle i gael cyllideb bwrsari'r GIG.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Rwy' wir wedi mwynhau'r lleoliadau gwaith. Mae bod ar leoliad gwaith yn eich trosi i'ch 'swydd yn y byd go iawn' fel Parafeddyg a dyna'ch nod pan fyddwch chi'n gorffen y cwrs. Dw'i wedi bod ar leoliadau gwaith ar draws Cymru gyfan, o Wrecsam a Llanidloes yn y Gogledd, Sir Benfro yn y Gorllewin ac i lawr i Abertawe a Chaerdydd yn y De. Rwyf wedi profi ystod eang o leoliadau gwaith, o leoliadau ambiwlans i wardiau gofal lliniarol, unedau mamolaeth, theatrau a lleoliadau iechyd meddwl cymunedol ac rwyf hefyd wedi dysgu ystod eang o sgiliau clinigol ym mhob maes.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?

Rwy'n gobeithio cael swydd fel Parafeddyg gan anelu at symud ymlaen feddygaeth y gwylltireodd/hirdeithiau yn y dyfodol.

A fyddech yn cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe?

Byddwn. Mae'r brifysgol yn gweithio tuag at fod mor eco-ystyriol â phosibl ac mae hyn i'w weld yn nigwyddiadau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Rwyf hefyd wedi cael profiad o gefnogaeth bersonol gan Undeb y Myfyrwyr ac wedi bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas?

Fi yw Llywydd a Sylfaenydd y Gymdeithas Barafeddygol, yn Gynrychiolydd Parafeddygol - Cyn-Ysbyty, ac yn aelod o'r Gymdeithas Meddygaeth Frys (PHEMS), Cymdeithas y Coed, y Gymdeithas Blannu a'r Gymdeithas Nofio Gwyllt.