Nathan Ellmer

Nathan Ellmer

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Peirianneg Sifil

Ym mha gyfadran rydych chi'n gwneud eich gwaith ymchwil?

Rwy'n gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ac yn fwy penodol yng Nghanolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol (ZCCE).

Sut daethoch chi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Yn ôl yn 2017, dechreuais i fy nhaith ym Mhrifysgol Abertawe drwy astudio am BEng mewn Peirianneg Awyrofod. Ces i fy nenu i astudio yma gan lawer o bethau, gan gynnwys y cyfarpar o safon ddiwydiannol a oedd ar gael ar Gampws y Bae, a oedd newydd gael ei adeiladu, y lleoliad arfordirol a brwdfrydedd y staff.

Beth yw eich pwnc ymchwil?

Teitl fy ymchwil yw “Accelerated in-silico characterisation, topology optimisation and design of Electroactive Polymer (EAP) based soft robots”. Mae'r ymchwil yn cynnwys datblygu fframwaith cyfrifiadol i efelychu anffurfiadau anferth o bolymerau meddal iawn. Mae polymerau electroweithredol yn is-ddosbarth o ddeunyddiau clyfar sy'n ymateb i symbyliadau trydanol. Felly, mae’r her yn deillio o fodelu deunyddiau sy'n anffurfio o ganlyniad i ymateb electrobeiriannol cypledig.

Beth a wnaeth ysgogi eich diddordeb yn y maes hwn?

Dyma newid maes o awyrofod i gwrs sy'n fwy seiliedig ar ddeunyddiau. Fodd bynnag, mae'r cydrannau allweddol yn ymwneud â modelu elfennau cyfyngedig, sy'n gydran graidd o efelychiadau ar draws yr holl ddisgyblaethau peirianneg. Mae'r cymwysiadau hefyd yn helaeth, gan amrywio o gyhyrau artiffisial, synwyryddion i ddulliau cynaeafu ynni.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Mae fy rhaglen ymchwil yn gam mewn prosiect mawr a chydweithrediad sy'n datblygu â'r Labordy Amddiffyn, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (DSTL), a gafodd ei hwyluso diolch i gymorth hollbwysig gan y partner technegol Giles Moore. Yn y pen draw, byddai datblygu'r fframwaith hwn gam yn agosach at greu adnodd sy'n galluogi dylunwyr i addasu dyfeisiau polymerau electroweithredol i gyflawni ffyrdd penodol o gychwyn cymwysiadau ymarferol.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe'n gartref i ZCCE, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes peirianneg gyfrifiadol ac sy'n meddu ar etifeddiaeth gyfoethog o ran modelu elfennau cyfyngedig, diolch i'r Athro Zienkiewicz. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i weithio ochr yn ochr ag academyddion blaenllaw yn y maes megis y goruchwyliwr Antonio J Gil, ar waith sy'n cyfuno modelu dyfeisiau polymerau electroweithredol meddal ac arbrofi â nhw. Heb sôn am yr ochr academaidd, mae Abertawe ei hun mewn lleoliad gwych sy'n cynnig llawer o bethau i'w gwneud ar wahân i astudio.

Beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol?

Rwy'n gofyn y cwestiwn hwn i mi fy hun yn rheolaidd. Rwy'n ymwneud â byd diwydiant a'r byd academaidd yn fy rôl bresennol ac mae'r ddwy ochr o ddiddordeb i mi. Ymhell cyn cyrraedd y llinell derfyn, rwy'n parhau i ganolbwyntio ar fy ymchwil ac i ehangu fy rhwydwaith yn y ddau faes fel y galla i wneud penderfyniad gwybodus yn y dyfodol.