Omkar Joshi

Omkar Joshi

Gwlad:
India
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Dylai fod o leiaf ddau amcan ar gyfer addysg brifysgol. Yn gyntaf, dylai roi'r sgiliau angenrheidiol i chi mewn maes addysg penodol. Yn ail, dylai fagu eich hyder i fentro allan i'r byd.

Wrth ymdrin â hawliadau morwrol, roeddwn i’n teimlo bod angen datblygu fy addysg mewn cyfraith forwrol, ac ymchwiliais i ysgolion y gyfraith sy'n cynnig cyrsiau o'r fath. Dyna pryd y des i ar draws Prifysgol Abertawe, a'i dewis gan fod gan y rhaglen enw da yn y diwydiant. Yn ogystal, des i ar draws y llyfrau a’r deunyddiau eraill a gyhoeddwyd gan y gyfadran addysgu yn y Brifysgol ac, yn naturiol, roeddwn i eisiau cael gwybodaeth gan athrawon dysgedig fel y rhain. Yn gyffredinol, roeddwn i’n gwerthfawrogi’r ffaith bod y gyfadran yn hygyrch ac yn galonogol iawn.

Mae adrannau eraill y Brifysgol yn gefnogol hefyd. Cyflwynais i gais i’r Brifysgol yn ystod cyfnod Covid, ond fe wnaeth y tîm derbyn sicrhau bod y broses yn ddymunol gan roi diweddariadau i mi’n rheolaidd. Cefais fy nghyflwyno i SWELT y Brifysgol (Prawf Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe) yn ystod y broses dderbyn - sydd, yn fy marn i, yn llwyfan gwych.

Fel myfyriwr y gyfraith, rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn y llyfrgell, ac mae llyfrgell y gyfraith yn Abertawe yn rhagorol. Mae llyfrgellwyr y gyfraith a'r staff yn gefnogol iawn ac yn awyddus i helpu. Yn ogystal â hynny, mae'r sesiynau cyflogadwyedd ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) yn fentrau gwych a gyflwynwyd gan y Brifysgol i helpu myfyrwyr i chwilio am waith.

Yn olaf, mae egni gwych ar gampws y Brifysgol, sydd wedi’i amgylchynu gan barciau a thraethau. Mae Prifysgol Abertawe wedi creu ecosystem sydd wedi'i mynegi'n dda, sydd mewn sefyllfa dda i gyflwyno'r wybodaeth a'r hyder i'r myfyrwyr sydd eu hangen arnynt ar gyfer heriau'r dyfodol