Rose Edwards

Rose Edwards

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Ffarmacoleg Feddygol

Rose Edwards ydw i, myfyrwraig Ffarmacoleg Feddygol yn yr ail flwyddyn yn Ysgol Feddygaeth Abertawe. Rwy’n dod o America ond gwnes i gwblhau cyrsiau TGAU a Safon Uwch yn y DU. Cefais i le ym Mhrifysgol Abertawe trwy glirio ac mae wedi bod yn brofiad anhygoel gobeithio y byddaf yn gallu parhau ag ef trwy ymgymryd ag astudiaethau pellach yn Abertawe.

Yn y pen draw, es i drwy’r broses glirio oherwydd na chefais i’r graddau roedd arnaf eu hangen er mwyn cael mynd i’r brifysgol a oedd fy newis cadarn. Nid oeddwn yn teimlo bod blwyddyn i ffwrdd yn syniad da i mi, felly penderfynais i i fynd trwy glirio er mwyn cael fy nerbyn ar gyfer cwrs diddorol a gafaelgar a fyddai’n caniatáu imi gael dilyn cwrs meddygaeth ar ôl hynny.

Sut beth oedd y broses glirio?

Roedd y broses yn syml iawn ac yn llawer haws na’r hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl. Defnyddiais i WhatUni ac UCAS er mwyn dod o hyd i gwrs o ddiddordeb imi, a chysylltais i â’r prifysgolion er mwyn cael cynnig anffurfiol.

Roedd gan rai prifysgolion ffurflen glirio i’w llenwi ar gyfer y cwrs sydd o ddiddordeb, ac roedd ganddynt linellau ffôn arbennig ar gyfer clirio er mwyn siarad â myfyrwyr a staff er mwyn iddynt ateb fy nghwestiynau posib.

Unwaith imi dderbyn cynnig anffurfiol, es i ar UCAS Tract er mwyn ychwanegu fy newis clirio ac wedyn derbyniodd y Brifysgol fy newis trwy UCAS.

Pam Abertawe?

Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd ei llwybrau tuag at Feddygaeth yn bennaf, a fyddai’n rhoi cyfle arall imi gael lle ar gwrs meddygaeth i raddedigion. Hefyd roeddwn i wedi bod i Abertawe o’r blaen a mwynheais fy amser yn y ddinas ac ar y traeth yn fawr iawn. Roedd y staff mor neis a chymwynasgar ac roeddent yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a oedd gennyf.

Hefyd mae Abertawe yn ddinas ddigon bach rydych yn gallu cerdded i unrhyw le yn ôl yr angen ond mae hi’n ddigon mawr ichi gael y profiad llawn o fod yn y brifysgol a dyna’r hyn roedd yn chwilio amdano yn lle byw mewn dinas fawr.

Mae llawer o leoedd gwahanol a phrydferth i’w darganfod a gellir defnyddio beic Santander er mwyn seiclo ar hyd llwybr seiclo’r traeth. Roedd y traeth gyferbyn â champws Singleton, felly roedd yn hawdd mynd i lawr i’r traeth ac ymlacio rhwng darlithoedd neu bryd bynnag roedd gennyf amser rhydd. Roedd yn hawdd iawn imi weld fy hun yn byw yno’n gyfforddus ac yn hapus am dair blynedd.

Fy Awgrymiadau Gorau

Rwy’n gwybod ei bod yn drist ond cofiwch nad yw methu â chael lle yn y Brifysgol o’ch dewis cyntaf yn ddiwedd y byd. Mae llawer o lwybrau y gellir eu dilyn er mwyn cyrraedd eich nod felly peidiwch â rhoi’r gorau iddi.

Ceisiwch ymweld â’r brifysgol a siarad â myfyrwyr presennol os gallwch chi gan eu bod nhw’n gallu ateb eich cwestiynau o safbwynt myfyriwr a'i gwneud yn haws ichi ddychmygu’ch hun yn y brifysgol.

Pan gyrhaeddwch chi’r brifysgol ceisiwch gymryd rhan mewn cymaint o bethau ag y gallwch chi a mwynhau’ch amser yn llawn oherwydd dyna le y byddwch chi’n treulio tair neu bedair blynedd o’ch bywyd ac yn creu atgofion gwych.

 

Gwyliwch beth sydd gan Rose i'w ddweud am ei phrofiad Clirio