Shroug Alotaibi

Shroug Alotaibi

Gwlad:
Saudi Arabia
Cwrs:
PhD Rheoli Busnes

Darlithydd yn Saudi Arabia ydw i, ac ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Reolaeth, yn benodol yn yr adran Adnoddau Dynol.

Cyn i mi ymgeisio i Brifysgol Abertawe, penderfynais dreulio fy nghwrs PhD mewn dinas sydd â golwg ar y môr, yn union fel y ddinas roeddwn i'n byw ynddi, sef Jeddah. Rydw i'n teimlo nad ydw i'n gallu byw heb draeth. Gwnaeth hyn fy annog i gyflwyno cais i Abertawe gan imi hefyd ddod o hyd i rywun â diddordeb yn fy maes ymchwil.

Rwy'n ymchwilydd PhD yn ei drydedd flwyddyn, ac mae'r daith wedi bod yn wych hyd yn hyn. Mae fy ngoruchwyliwr a'r tîm Ymchwil Ôl-raddedig yn fy nghefnogi ym mhob agwedd. Rwy'n hapus fy mod wedi cael cyfle i ymuno â sawl cwrs a gynigir gan y llyfrgell, a effeithiodd yn gadarnhaol ar fy mherfformiad.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn i dan straen ac ychydig yn ofnus, a thrwy'r dosbarthiadau ioga wedi'u cynnig gan y Brifysgol, llwyddais i reoli'r teimladau hyn a dal ati gyda fy ngwaith. Cefais gyfle hefyd i feithrin rhwydwaith da yn fy ysgol gyda derbynyddion a chydweithwyr PhD eraill, er enghraifft, a wnaeth i mi deimlo'n llawer gwell am fy nheimladau o hiraeth.

Mae gen i ddiddordeb mewn symudedd rhyngwladol ers iddo ddod yn bwnc pwysig ym maes rheoli a'r maes sefydliadol.

Ar ôl darllen y llenyddiaeth, roeddwn i'n teimlo ei bod bellach yn hanfodol deall gyrfaoedd mudwyr medrus er mwyn i sefydliadau ddefnyddio eu hadnoddau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, a symbolaidd yn gywir, a chan mai Saudi Arabia yw'r wlad sydd â'r drydedd gyfradd uchaf o ran mudwyr, penderfynais ymchwilio i brofiadau mudwyr medrus iawn sy'n gweithio ac yn byw yn Saudi Arabia.

Drwy fy ymchwil, rwy'n gobeithio cyfrannu at yr wybodaeth yn y maes a thynnu sylw at yr heriau a'r buddion cyffredin sy'n gysylltiedig â'r boblogaeth lafur ryngwladol hon. Hefyd, mae'n cynnig darlun mwy cyfannol o fudo pobl fedrus a gyrfaoedd rhyngwladol.

Rydw i bellach yn y cyfnod o ddysgu sut i gyhoeddi papur a sut i fod yn ddylanwadwr yn fy maes â'm hymchwil drwy feithrin fy sgiliau fel ymchwilydd.