Stephanie Todd

Stephanie Todd

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Nyrsio Oedolion

Rwy'n hoffi’r ffaith bod pob dydd yn wahanol ar y cwrs, mae rhai diwrnodau wyneb yn wyneb mewn neuadd ddarlithio, rhai diwrnodau'n alwadau zoom ar-lein, diwrnodau eraill yn weithdai ymarferol. Rydw i hefyd yn hoffi pa mor frwdfrydig yw'r darlithwyr am y pynciau; mae llawer ohonynt wedi gweithio fel nyrsys am flynyddoedd, maen nhw'n siarad o brofiad, gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac angerdd am y pwnc.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?

  1. Natur - Er bod Abertawe'n ddinas fawr, mae dal cymaint o natur o gwmpas, o filltiroedd o arfordir i barciau enfawr fel Parc Singleton (gyda mynediad hawdd at y ddau o Gampws Singleton). 
  2. Hanes - Mae gan Abertawe dreftadaeth ddiddorol, rhoddwyd y llysenw "Copperopolis" iddi'n flaenorol oherwydd y ddinas oedd yr allforiwr copr mwyaf ar un adeg oherwydd ein dyddodiadau glo,
  3. Y Saernïaeth - y tro nesaf y byddwch chi yng nghanol y ddinas, peidiwch anghofio edrych lan i frig yr adeiladau, mae ffasâd yr adeiladau'n dangos y gorffennol, er bod ffenestri'r siopau'n newid ac yn datblygu dros y blynyddoedd, mae lan lofft yn aros yr un peth. Er, i rai ohonynt mae natur yn ceisio'u hadennill. Gallwch hefyd weld y strydoedd a gafodd eu dinistrio gan fomio yn ystod yr 2il Ryfel Byd.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Mae Abertawe'n lleol i mi ond mae Prifysgol Abertawe ymysg y 10 sefydliad uchaf yn ôl Tablau Prifysgolion The Times UK 2024 ar gyfer Nyrsio. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig ystod o wasanaethau, rydw i, fel myfyriwr nyrsio'n cael bod yn rhan ohonynt.

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio/beth rydych chi'n mynd i’w wneud ar ôl graddio?
Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Nyrs Gofrestredig a gweld lle mae fy ngyrfa yn mynd â fi. Dwi ddim 100% yn siŵr beth yr hoffwn arbenigo ynddo eto, ond y peth arbennig am gymhwyso fel nyrs yw bod cymaint o opsiynau i ddewis ohonynt. Ar ôl ennill profiad, hoffwn i ddychwelyd i'r brifysgol i gwblhau gradd Meistr.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol groesawgar a chefnogol. Mae eich lles a'ch llwyddiant yn bwysig i'r darlithwyr a'r staff. Mae'n rhywle fydd yn helpu i sbarduno eich llwyddiant.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?
Nac ydw, dyma un peth rwy'n ei ddifaru, ond rwy'n cadw'n brysur trwy gymryd rhan mewn cyrsiau eraill yn y brifysgol fel yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr a bod yn gynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer fy ngharfan.

Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs (Blwyddyn mewn Diwydiant)?
Mae gen i naw lleoliad gwaith clinigol dros gyfnod y 3 blynedd a allai fod ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe neu Hywel Dda. Gall y 9 lleoliad fod ar Ward Ysbyty, gyda Meddyg Teulu, gyda Nyrsys Cymunedol, yn y Theatr Lawdriniaeth, hefyd mae gennych y cyfle i dreulio'r diwrnod gyda disgyblaeth arall fel ffisiotherapydd, meddyg ymgynghorol, neu fferyllydd os oes eisiau drwy drefnu diwrnodau 'Spoke'. Mae'n bwysig gwybod am y rôl allweddol mae'r Tîm Amlddisgyblaethol yn ei chwarae wrth roi gofal i gleifion.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, rydw i wedi bod yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ar y BANC wrth astudio. Mae'r rôl hon wedi ehangu fy ngwybodaeth am Hanfodion Nyrsio ac wedi codi fy hyder ar y wardiau gan nad oedd gen i unrhyw brofiad gofal cyn dechrau'r cwrs. Byddwn i'n argymell hyn i unrhyw un ar y cwrs gan ei fod yn gymorth i godi hyder yn eich ymarfer a’ch profiad a gallwch rwydweithio â staff eraill wrth ennill arian ychwanegol.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, mae'r llyfrgell wedi bod ar gael bob amser i helpu gydag unrhyw ymholiadau boed hynny'n fater Wifi neu gyngor ar draethodau.

Ydych chi'n gallu siarad Cymraeg?
Nac ydw, ond dw i'n dysgu Cymraeg