Thilini Senevirathne

Thilini Senevirathne

Gwlad:
Sri Lanka
Cwrs:
MA Cyfieithu Proffesiynol

Pan chwiliais am Radd Meistr mewn Cyfieithu, gwelais fod modiwlau'r cwrs yn y cwrs Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn eithaf ymarferol, yn wahanol i brifysgolion eraill. Roeddwn i am ddysgu am Gyfieithu o safbwynt mwy ymarferol a modern yn hytrach na damcaniaethau neu hanes y maes hwn. Dyna pam wnes i ddewis y brifysgol hon.

Dw i’n gyfieithydd i’r llywodraeth yn ieithoedd Sinhala/Saesneg a nawr dw i’n ceisio datblygu fy ngyrfa fel cyfieithydd llawrydd mewn Ffrangeg/Saesneg hefyd.

Dw i’n mwynhau holl fodiwlau'r cwrs. Ond dw i’n hoff iawn o'r modiwl 'Cyfieithu Uwch' lle rydyn ni'n cael mwy o gyfle i gyfieithu ar ein liwt ein hunain ac mae'n dipyn o help o ran nodi ein cryfderau a'n gwendidau. Ar ben hynny, buom i gyd yn gweithio fel grŵp ac roedd hynny'n help o ran cael adborth gan ein ffrindiau. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i ddatblygu ein sgiliau cyfieithu oherwydd bod gan wahanol bobl farn wahanol a gall hyn ehangu ein safbwyntiau.

Mae'r darlithwyr yn barod iawn i helpu. Gallwn ni bob amser fynd i'w cyfarfod i drafod unrhyw broblem boed yn academaidd neu'n bersonol. Maen nhw bob amser yn ymateb i negeseuon e-byst yn gyflym iawn ac maen nhw'n barod i'n helpu gydag unrhyw beth.

Cefais fy synnu o weld yr adborth gan y darlithwyr. Roedden nhw'n rhoi sylwadau ar bob pwynt, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Pan roedden nhw'n tynnu sylw at y camgymeriadau roedd hynny'n gymorth mawr i mi wneud yn dda yn yr aseiniad nesaf ac roedd eu sylwadau cadarnhaol yn hwb i mi barhau â'm hastudiaethau.

Mae'r cwrs yn hyblyg iawn yn bennaf oherwydd bod holl fodiwlau'r cwrs yn gydgysylltiedig. Weithiau mae hyd yn oed yr aseiniadau rydyn ni'n eu gwneud y semester hwn yn debyg i hanfodion aseiniad arall mewn modiwl gwahanol y semester nesaf. Oherwydd hyn, dw i'n teimlo bod popeth yn gysylltiedig a does dim rhaid i mi boeni am fodiwlau ar wahân.

Fy hoff fodiwlau yw Sylfeini Cyfieithu a Chyfieithu Uwch. Roedd Sylfeini'n cynnwys llawer o elfennau am gyfieithu a chawsom lawer o wybodaeth sy'n hanfodol i gyfieithydd proffesiynol. Yn y cwrs Cyfieithu Uwch, rydyn ni'n cael cyfle i weithio ar ein liwt ein hunain i wneud y cyfieithiadau yn y dosbarth ac fel gwaith cartref. Roedd yr holl gyfieithiadau hyn yn cael eu marcio gan y darlithydd gyda disgrifiad llawn fel adborth. Pan ddechreuais y cwrs hwn, roeddwn i'n amau a allwn i wneud cyfieithiadau yn yr iaith Ffrangeg. Fodd bynnag, bellach dw i’n hyderus iawn y galla i wneud y mathau hyn o gyfieithiadau.