Tom Kemp

Tom Kemp

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Daearyddiaeth Ffisegol

Yn dilyn nifer o ddiwrnodau agored ac ymweld â’r Brifysgol, roeddwn yn gwybod taw Abertawe oedd y Brifysgol i fi. Roedd brwdfrydedd staff yr Adran Ddaearyddiaeth ynghyd â hyblygrwydd y cwrs a’r profiadau teithio yn apelio ataf yn fawr iawn.

Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i fynd ar brofiad gwaith gydag Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol yn sgîl ennill Her Academi Morgan yn y GwyddonLe 2019. Roedd hyn wedi rhoi blas o fywyd prifysgol i fi yn ogystal â chyfle i ddysgu sgiliau daearyddol newydd yn barod ar gyfer mis Medi.

Wrth benderfynu ar ba Brifysgol i ddewis, roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystyriaeth bwysig oherwydd y manteision o ddosbarthiadau llai sy’n golygu gwell perthynas gyda dy ddarlithwyr, ac felly’n gwneud holi cwestiynau a thrafod y cynnwys yn llawer haws. Yn gymdeithasol hefyd mae dosbarthiadau llai o faint yn ei gwneud hi’n llawer haws i greu cysylltiadau newydd.

Mae’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn wych, megis ysgoloriaethau a bwrsariaethau Academi Hywel Teifi a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac erbyn hyn rwy’n gweld fy mod yn perfformio’n well yn y modiwlau cyfrwng Cymraeg o gymharu â’r rhai Saesneg. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi gweithio gydag Academi Hywel Teifi ar leoliad brofiad gwaith SPIN a thrwy hynny wedi elwa a gwella fy sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn fuddiol i fi ar ôl graddio.

Mae astudio trwy’r Gymraeg wedi cynnig amryw o gyfleodd arbennig i fi yn ystod fy amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, o weithio fel cyflwynydd i S4C a Radio Cymru 2, i fod yn rhan o'r grŵp cyntaf erioed o fyfyrwyr Prifysgol i lunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd ac wrth gwrs, nosweithiau allan i’r dre gyda’r Gymdeithas Gymraeg. Dwi wir wedi creu atgofion bythgofiadwy!

Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Abertawe yw CER AMDANI!