Mae cyfleusterau Biowyddorau Prifysgol Abertawe yn cynnig amgylchedd heb ei ail ar gyfer ymchwil, addysg ac arloesi o'r radd flaenaf, gan barhau i wneud cyfraniadau sylweddol at ddatblygiad y Biowyddorau a'u heffaith ar gymdeithas.
YR R. V. MARY ANNING
Mae ein cwch ymchwil catamaran pwrpasol yn werth £1.3 miliwn a gall gludo 26 o deithwyr, gan roi cyfle i'n holl fyfyrwyr ac ymchwilwyr gynnal gweithgareddau ym Mae Abertawe a'r tu hwnt. Dyluniwyd y Mary Anning fel llwyfan gweithio sefydlog sy'n gallu gweithio ar yr arfordir yn ogystal ag allan ar y môr gyda'r cyflymder i gyrraedd cyrchfannau'n gyflym os bydd angen. Ei gyflymder mwyaf economaidd yw 18kts, sy'n eithaf cyflym ar gyfer cwch o'r maint hwn.
TWNNEL GWYNT
Mae'r twnnel gwynt yn gyfleuster newydd a ddyluniwyd i alluogi biolegwyr a pheirianwyr i wneud ymchwil ar y cyd. Mae ganddo ardal brofi fawr lle mae adar yn hedfan (1.8m o led wrth 1.5m o uchder wrth 2.2m o hyd). I gyflymu awyr drwy ofod mor fawr, mae angen strwythur sylweddol i gynnwys y gwyntyllau, lleihau sŵn y gwyntyllau a chadw tyrfedd y llif awyr mor isel â phosib. Mae'r twnnel ei hun yn gogwyddo hefyd, sy'n golygu bod modd astudio ehediad esgynnol a gleidio. Y canlyniad terfynol yw twnnel > hyd o 17m sy’n pwyso > 20T. Diben hyn oll yw gwella ein dealltwriaeth o adar sy'n pwyso tua'r un faint â thun o ffa.
LABORDY ABERTAWE AR GYFER SYMUDIADAU ANIFEILIAID (SLAM)
Un o'n cryfderau craidd yw delweddu a dadansoddi data am symudiadau anifeiliaid, yn enwedig o ddata aml-ddimensiwn amledd uchel o dechnoleg wedi'i hatodi i anifeiliaid. Atgyfnerthwyd hyn yn fawr gan ein cyfleuster delweddu o'r radd flaenaf, a ariennir gan grant adnewyddu Labordy Cymdeithas Frenhinol Wolfson. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys clwstwr cyfrifiadurol sy'n gallu prosesu meintiau mawr o ddata, amrywiaeth o sgriniau diffiniad uchel ar gyfer delweddu data, a labordy electroneg ar gyfer datblygu technolegau wedi'u hatodi i anifeiliaid.
Mae wal electronig (1.5 x 4m) yn gysylltiedig â chlwstwr cyfrifiadur-tesla ar gyfer prosesu a delweddu uchel yn achos mesur data cyflymiad a magnetogmetreg cymhleth a geir o anifeiliaid ar gyflymder uchel. Mae'r swît yn defnyddio 'tagiau smart' pwrpasol gyda meddalwedd bwrpasol i ddeall y 'rheolau' y tu ôl i symudiadau anifeiliaid a'u canlyniadau, gan ymdrin â materion yn amrywio symudiadau lleiaf y corff dynol i fudiadau anifeiliaid ar draws cyfandiroedd.
CANOLFAN YMCHWIL DYFROL CYNALIADWY (CSAR)
Mae'r Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy yn ganolfan rhagoriaeth a sefydlwyd yn 2003 gyda chymorth yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, a Phrifysgol Abertawe. Mae gan CSAR systemau dyframaeth ailgylchredeg modern y gellir eu rhaglennu'n llawn. Fe'i dyluniwyd ar gyfer ymchwil gymhwysol ar ystod amrywiol o organebau dyfrol, o ardaloedd tymherus i ardaloedd trofannol, ac o amgylcheddau morol i amgylcheddau croyw. CSAR yw un o’r cyfleusterau ymchwil dyfrol mwyaf cynhwysfawr mewn unrhyw brifysgol yn Ewrop.
LABORDY ADEILADU TAGIAU
Mae'r Labordy Adeiladu Tagiau wedi'i sefydlu ar gyfer ymchwil, datblygu ac adnabod tagiau anifeiliaid gyda gallu newydd i astudio achosion a chanlyniadau symudiadau anifeiliaid gan ddefnyddio technoleg a osodir ar anifeiliaid. Mae'r gwaith yn ymwneud â synwyryddion, systemau casglu ynni, a lleihau maint dyfeisiau electronig yn ogystal â thechnoleg argraffu 3-D a phrofi gorchuddion fel y gellir adeiladu tagiau i fod yn gadarn heb gael llawer o effaith ar y rhai hynny sy'n eu gwisgo.
Y LABORDY YMDDYGIAD ARTHROPODAU
Defnyddir y Labordy Ymddygiad Arthropodau i fonitro ymddygiad pryfed gan ddefnyddio camerâu fideo confensiynol yn ogystal â synwyryddion a atodir i anifeiliaid megis offer mesur cyflymder a ddatblygir yn y Labordy Adeiladu Tagiau ac a ddadansoddir yn y swît delweddu. Mae prosiectau'n cynnwys ymateb plâu pryfed i semio-cemegion ac asesu ymddygiad sy'n ymwneud â 'chyflwr'.
LABORDY YMCHWIL ENDOCRINOLEG
Mae'r Labordy Ymchwil Encodrinoleg yn arbenigo mewn dadansoddi hormonau anfewnwthiol ac mae'n mynd i'r afael â chwestiynau amserol yn gyffredinol yn ogystal ag endocrinoleg ymddygiadol. Mae'r gwaith yn cynnwys meintioli hormonau amrywiol (e.e. hormonau atgenhedlu a straen) mewn samplau o ddŵr, gwallt, poer, ac ysgarthion a gesglir o amrywiaeth eang o rywogaethau, o bysgod i bobl.
AMGUEDDFA WALLACE
Mae'r amgueddfa'n dal nifer ac amrywiaeth fawr o anifeiliaid, sy'n amrywio o sbwng a chregyn a sgerbydau ceffylau.
LABORDY ADDYSGU WALLACE
- Yn dal 120/130 o fyfyrwyr
- Mae'r cyfarpar yn cynnwys microsgopau, sbectroffotomesuryddion, allgyrchyddion, byrddau dyrannu, baddon dŵr, tanciau gêl etc.