Cydweithrediad ALPHA yn CERN yn cadarnhau, am y tro cyntaf, fod gwrthfater yn disgyn yn yr un modd â mater

Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, fel aelodau arweiniol o gydweithrediad ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen) yn CERN, wedi dangos, am y tro cyntaf, fod atomau gwrth-hydrogen yn disgyn i’r Ddaear yn yr un modd ag atomau mater.

Mae canlyniadau arloesol yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn Nature, yn gwrthbrofi’r posibilrwydd y gallai gwrthfater gael ei gyflymu tuag i fyny yn nisgyrchiant y Ddaear ac mae’n dod ag ymchwilwyr un cam yn agosach at ddatrys un o’r problemau pwysicaf ym maes ffiseg.

Rhagor am y stori hon

Yn Abertawe, rydym yn falch o'n hymchwil ar ffiniau ffiseg. Rydym yn ymdrechu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr drwy gynnig amgylchedd cyffrous ar gyferdysgu ac ymchwil.

Caiff ein cwricwlwm ei lunio gan arbenigwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ar draws rhychwant eang o feysydd ymchwil sy'n amrywio o ledddargludyddion, nanoffiseg a laserau, i ffiseg gwrth-fater, meysydd cwantwm a'r bydysawd cynnar. Mae ein cyrsiau'n
galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau datrys problemau a dadansoddol gydag ystod eang o gymwysiadau ar draws disgyblaethau.

Mae gennym gysylltiadau ymchwil a chydweithwyr ym mhedwar ban byd, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau graddfa fawr megis CERN, sy'n cynnig cyfleoedd prosiect ac ymchwil cyffrous i fyfyrwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd.