Mae lled-ddargludyddion ym mhob man - dyma'r dechnoleg sy'n pweru pob agwedd ar ein byd modern.

Nod y Sefydliad Ymchwil yw ehangu cymuned lled-ddargludyddion y Brifysgol sydd ag aelodau mewn sawl maes yn y Brifysgol, cymuned sydd eisoes yn gydlynol, yn gysylltiedig ac wedi'i chefnogi.

 Mae ein grŵp gweithredol yn cynnwys staff o nifer o feysydd yn y Brifysgol, gan gynnwys Ffiseg, Peirianneg, Deunyddiau a Chemeg. Rydym yn trefnu ac yn annog rhaglenni mentora a chymorth ac rydym byth a beunydd yn gweld manteision enfawr y cysylltiadau cryf â diwydiant a ddatblygwyd gennym dros y tair blynedd diwethaf.

Diffiniwyd themâu ein gwaith ar y cyd â'n prif bartneriaid diwydiannol (SU, IQE, SPTS ac NWF):

  • Electroneg pŵer effeithlon
  • Systemau ynni glân
  • Ioneg ac ‘O-the-H’
  • Bio-nano a synhwyro

Yn 2022 byddwn yn symud i CISM, cyfleuster newydd sbon a adeiladwyd yn sgîl buddsoddi £50m ar Gampws y Bae. Cafodd yr adeilad hwn ei greu er mwyn dod â phlatfformau a phrosesau lled-ddargludyddion a deunyddiau uwch ynghyd i ddyfeisio technolegau a chynhyrchion newydd.

Lle mae gweithgynhyrchu'n cwrdd ag ymchwil a datblygu, bydd CISM yn darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys prototeipio a datblygu prosesau, deori, ymgysylltu, hyfforddiant a mynediad at bortffolio grantiau arloesi'r DU a’r UE.

Gyda'n gilydd byddwn yn meithrin y sgiliau a'r doniau i sicrhau bod ein diwydiant yn parhau ar flaen y gad.

Diddordeb mewn gradd ymchwil?

Gwybodaeth Ymchwil Ôl-raddedig

M2A EngD student with a microscope