Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn helpu pobl i ddysgu am dechnoleg lled-ddargludyddion, sy'n hanfodol i bopeth o ffonau symudol a cherbydau electronig i loerenni, drwy giosgau rhyngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Imersifi, cwmni realiti rhithwir ac arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
Bydd y ciosgau’n caniatáu i ddefnyddwyr ymgysylltu ag AI drwy orchmynion llais. Gall defnyddwyr siarad yn uniongyrchol â'r personâu AI, yr Athro Chip a'r Athro Nano, i ofyn cwestiynau a dysgu am dechnoleg lled-ddargludyddion.
Bydd y ciosgau'n rhan o arddangosiadau a digwyddiadau, gan helpu'r cyhoedd, a phobl ifanc yn benodol, i ddysgu mwy am led-ddargludyddion mewn ffordd hwyl a difyr. Lleolir un o'r ciosgau yng nghyfleuster gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion o'r radd flaenaf y Brifysgol, y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM). Caiff sglodion lled-ddargludol eu cynhyrchu mewn cyfleuster gweithgynhyrchu.
Mae lled-ddargludyddion wrth wraidd y byd modern. Nhw yw'r ymennydd sy’n llywio ein dyfeisiau pob dydd megis ffonau clyfar, gliniaduron ac allweddi ceir a reolir o bell. Maent hefyd yn hanfodol ar gyfer trafnidiaeth, ynni a chyfathrebu. Mae diwydiant lled-ddargludyddion ffyniannus yng Nghymru sy'n dod yn rhan fwyfwy pwysig o'r economi.
Datblygwyd y dechnoleg a ddefnyddir yn y ciosgau gan Imersifi, cwmni yn Abertawe a sefydlwyd gan ddau o raddedigion Prifysgol Abertawe. Mae Imersifi yn creu cymwysiadau Realiti Rhithwir o'r radd flaenaf sy'n ei gwneud yn bosib i unrhyw amgylchedd neu senario gael ei efelychu. Mae’r dechnoleg hefyd wrth wraidd canolfan efelychu uwch-dechnoleg yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, i helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol.
Crëwyd yr Athro Chip a'r Athro Nano i weithredu fel personâu AI y ciosgau. Mae'r personâu hyn yn defnyddio pŵer AI i ateb amrywiaeth eang o gwestiynau, gan wneud cysyniadau lled-ddargludyddion cymhleth yn hygyrch ac yn ddiddorol i fyfyrwyr, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym myd diwydiant.
Mae'r ciosgau'n rhai di-gyffwrdd, gyda thechnoleg olrhain â llaw a bwerir gan Ultraleap. Fe'u hategir hefyd gan ystod o gymwysiadau Realiti Rhithwir sydd eisoes yn cael eu defnyddio'n eang. Enw un o'r rhain yw Sand to Semiconductor. Bwriedir hyn ar gyfer myfyrwyr ac mae'n eu tywys drwy'r prosesau cymhleth o ran sut caiff lled-ddargludyddion eu creu: o dywod sy'n cynnwys llawer o silicon i'r sglodion sy'n pweru ein dyfeisiau.
Mae'r ciosgau'n ffurfio rhan o brosiect o'r enw START-SEMI sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau, doniau ac ail-addysgu yn y diwydiant lled-ddargludyddion. Prifysgol Abertawe sy'n arwain y prosiect ac mae Imersifi a CSConnected yn gweithredu fel ei bartneriaid diwydiannol, wrth i Brifysgolion Leeds a Warwick weithredu fel ei bartneriaid academaidd. Caiff ei ariannu gan Innovate UK.
Dywedodd Joe Charman, cyd-sefydlwr Imersifi:
"Mae ein Ciosgau AI Di-gyffwrdd yn cynrychioli naid sylweddol ymlaen mewn technoleg ryngweithiol, gan alluogi defnyddwyr i archwilio cysyniadau lled-ddargludol mewn ffordd ymdrochol a greddfol. Mae hi'n wych gweld pobl o bob oedran a chefndir yn rhyngweithio â'n hatebion pwrpasol i archwilio byd lled-ddargludyddion."
Meddai'r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg ac arbenigwr lled-ddargludyddion:
“Mae'r cymeriadau, sef yr Athro Chip a'r Athro Nano, yn ffordd ddifyr iawn o ennyn diddordeb mewn lled-ddargludyddion a dysgu amdanynt. Gall ymwelwyr â'n cyfleuster newydd yn Abertawe sef y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), ofyn unrhyw beth i'r systemau AI am fyd cyffrous lled-ddargludyddion, gan gynnwys sut maen nhw'n cael eu gwneud a'u defnyddio. Rydym yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant lled-dargludyddion sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru."