🔬 Beth i’w Ddisgwyl:
- Seryddiaeth ymarferol: Defnyddio telesgopau robotig i arsylwi gwrthrychau seryddol.
- Technoleg flaengar: Treulio diwrnod yn ein cyfleuster lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf ar Gampws y Bae.
- Cyfarfod â’r arbenigwyr: Cwrdd ag ymchwilwyr a darganfod y gwaith arloesol sy’n digwydd yn ein adran..
Mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio i roi blas realistig i chi ar ffiseg lefel prifysgol a’r ystod eang o feysydd ymchwil rydym yn eu harchwilio.
📅 Gwybodaeth Allweddol:
- Dyddiadau: Dydd Llun 22 Mehefin – Dydd Gwener 26 Mehefin
- Lleoliad: Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe
- Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Gwener 12 Mehefin
- Mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
📥 Sut i Wneud Cais:
Lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen gais , a’i dychwelyd at Dr Sarah Roberts (s.g.roberts@swansea.ac.uk).
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cenhedlaeth nesaf y ffisegwyr i Abertawe!