String Theory image

Ein Hymchwil

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), 2021: Ledled ffiseg arbrofol, gymhwysol a damcaniaethol, mae 97% o’n cyhoeddiadau yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.  Mae effeithiau ymchwil sy’n rhychwantu diagnosteg canser, uwchgyfrifiadura ac ymgysylltu â’r cyhoedd wedi cynyddu’n sylweddol i fod yn 50% sy'n arwain y byd. Mae 100% o'n Hamgylchedd wedi ennill graddau sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnwys: pelydryn positron ynni isel ag offer penodol ar gyfer astudio positroniwm, nifer o systemau laser pylsiadol a thon barhaus, a microsgopau twnelu sganio, optegol agos a Raman. 

Mae adnoddau cyfrifiadura perfformiad uchel ar gael drwy glystyrau ac uwchgyfrifiaduron penodol.

Mae aelodau o staff yn arwain gwaith cydweithredol ALPHA, yn CERN, i greu, dal a defnyddio gwrth-hydrogen. Cyhoeddir canlyniadau gwaith cydweithredol ALPHA yn rheolaidd yn Nature, ac maent wedi ymddangos ar y BBC, CNN ac mewn cyfryngau eraill.

Mae'r rhaglen Sêr SAM newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn canolbwyntio ar ffiseg deunyddiau uwch sy'n ymgorffori swm isel o ynni, i'w cymhwyso y maes optoelectroneg a bioelectroneg. Y meysydd penodol sydd o ddiddordeb, a'r meysydd arbenigedd penodol, yw lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, deunyddiau electronig-ionig dargludol hybrid, ffotoddatgelu ac ynni solar.

Themâu Ymchwil

Ffiseg Gynhwysol a Deunyddiau

Mae ymchwil y grŵp APM yn arbrofol yn bennaf gyda chymorth ychwanegol mewn efelychu a damcaniaeth. Mae'n hynod amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymchwil sylfaenol a chynhwysol mewn meysydd megis trosi ynni solar, synhwyro, ffotoddatgelu, bioelectroneg, lled-dargludyddion ynni isel a deunyddiau electronig ategol, nodweddion nano-raddfa, deunyddiau biomimetig, biosbectrosgopeg a datgelu canser.

Ffiseg Atomig, Foleciwlaidd a Chwantwm

Mae’r grŵp ymchwil Ffiseg Atomig Moleciwlaidd a Chwantwm (AMQP) mae’n ymdrin â phortffolio amrywiol o ymchwil ffiseg cwantwm yn amrywio o wrthfater i ddeunydd cyddwys, optomecaneg, ffenomenau tra chyflym, delweddu a chyfrifiant cwantwm ac efelychu. Mae'r gwaith yn rhychwantu arbrawf a theori ac mae iddo gymwysiadau mewn sawl maes, gan gynnwys gwyddor feddygol.

Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg

Mae'r grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg (PPCT) yn cynnal ymchwil mewn ffiseg gronynnau ddamcaniaethol a chyfrifiadurol a chosmoleg, gyda'r nod o ddarganfod y disgrifiad mwyaf sylfaenol o fater a grymoedd ar y lleiaf graddfeydd hyd, gan gynnwys gwir natur disgyrchiant, tarddiad ac esblygiad y Bydysawd, ac ymddygiad blociau adeiladu sylfaenol mater o dan amodau eithafol.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.