Rydym yn creu adnoddau meincnodi i werthuso systemau uwchgyfrifiaduron

Ed Bennett Science image

Yr Her

Mae uwchgyfrifiaduron neu gyfrifiaduron perfformiad uchel (HPC) yn hanfodol mewn sectorau diwydiannol amrywiol, o gyfrifiannu rhagolygon y tywydd i ddylunio ceir mwy diogel.  O ystyried eu pwysigrwydd, mae angen meincnodi neu werthuso platfformau HPC i bennu sut maent yn ymateb i straenachoswyr megis llwyth gwaith uchel, cyfrifiadau rhifiadol mawr neu drosglwyddo data dwys. 

Y Dull

Mae tua 20% o systemau uwchgyfrifiadura'n cael eu defnyddio i ganfod nodweddion gronynnau elfennol gan ddefnyddio damcaniaeth medrydd dellt (LGT), sydd felly'n darparu un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o werthuso perfformiad uwchgyfrifiaduron. Defnyddiodd grŵp yr Athro Biagio Lucini yn Abertawe eu harbenigedd mewn ffiseg Beyond the Standard Model i ddatblygu BSMBench, côd sy'n seiliedig ar ddulliau LGT. Nodwedd unigryw’r côd yw'r gallu i amrywio agweddau cyfrifiadol a chyfathrebu drwy addasu paramedrau syml y damcaniaethau y mae'n eu hysgogi. Mae hwn yn ei wneud yn offeryn meincnodi pwerus ar gyfer systemau uwchgyfrifiadura.

Yr Effaith

Mae BSMBench wedi cael ei ddefnyddio gan nifer o gwmnïau uwchgyfrifiadura (NVIDIA, Intel) i feincnodi eu cynnyrch caledwedd newydd. Cafodd ei ddefnyddio hefyd i ddangos effeithiolrwydd system uwchgyfrifiadura ar ôl eu diogelu nhw yn erbyn maleiswedd, sy'n bwysig ar gyfer hyder cwsmeriaid. Cafodd BSMBench ei ryddhau fel prosiect ffynhonnell agored ym mis Mehefin 2012 a gellir ei lawrlwytho am ddim o https://gitlab.com/edbennett/BSMBench.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG goal 8 Decent work
UNSDG Goal 9 Industry
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe