Trosolwg o'r Ganolfan

Mae grŵp ymchwil Ffiseg Gynhwysol a Deunyddiau (APM) yn yr Adran Ffiseg yn cyfuno ymdrech newydd mewn Deunyddiau Uwch Cynaliadwy (Rhaglen SAM Sêr) â Nanoddeunyddiau a Biosbectrosgopeg a Biomimeteg. Mae ymchwil y grŵp APM yn arbrofol yn bennaf gyda chymorth ychwanegol mewn efelychu a damcaniaeth. Mae'n hynod amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymchwil sylfaenol a chynhwysol mewn meysydd megis trosi ynni solar, synhwyro, ffotoddatgelu, bioelectroneg, lled-dargludyddion ynni isel a deunyddiau electronig ategol, nodweddion nano-raddfa, deunyddiau biomimetig, biosbectrosgopeg a datgelu canser.

Mae'r grŵp APM yn cydweithio â chydweithwyr o bob rhan o'r Coleg Gwyddoniaeth a'r Brifysgol, ac yn enwedig â'r Colegau Peirianneg a Meddygaeth, ac mae ganddo gysylltiadau agos hefyd â diwydiant rhanbarthol a chenedlaethol a sefydliadau llywodraethol. Ariennir gweithgareddau APM gan amrywiaeth eang o ffynonellau sy'n cynnwys RCUK, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cancer Research UK, Ymchwil Canser Cymru ac Innovate UK. Mae ymchwil APM wedi arwain at ddatblygiad sawl cwmni deillio ac mae ganddo gysylltiadau cryf â chyfleusterau Canolfan Nanoiechyd y Brifysgol, sy'n gartref i'n labordai o'r radd flaenaf. O ganlyniad i natur amlddisgyblaethol ein hymchwil, mae'n staff a myfyrwyr amrywiol yn dod nid yn unig o gefndir Ffiseg ond hefyd o gefndir Cemeg, Gwyddor Deunyddiau, Peirianneg Drydanol a Bioffiseg.