Athro David Olive

Darlithoedd sydd ar ddod

Athro Didier Queloz - 2023 Darlith

Athro Didier Queloz

The Exoplanet Revolution

Yr Athro Didier Queloz, FRS, yw'r Athro Jacksonaidd Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt a'r Athro Ffiseg, ETH-Zurich.

Gwybodaeth am y siaradwr: Ef ddechreuodd y chwyldro ecsoblanedau ym maes astroffiseg. Tan yn ddiweddar, mae Cysawd yr Haul wedi cynnig yr unig sail wybodaeth sydd gennym am y planedau a bywyd yn y bydysawd. Ym 1995, newidiodd yr Athro Queloz y sefyllfa hon yn ddramatig pan wnaeth ef a Michel Mayor ddarganfod y blaned enfawr gyntaf y tu allan i Gysawd yr Haul. Yn sgîl hynny a gwaith dilynol ar ecsoblanedau a dorrodd dir newydd, derbyniodd ef Wobr Nobel mewn Ffiseg yn 2019.

Arweiniodd y darganfyddiad arloesol hwn at chwyldroad ym maes seryddiaeth o ran offeryniaeth a dealltwriaeth newydd o ffurfiad a datblygiad planedau.

Drwy'r degawdau canlynol, mae cyfraniadau gwyddonol Didier Queloz wedi arwain at gynnydd sylweddol o ran ein gallu i ganfod a mesur systemau ecsoblanedau gyda'r nod o ddatgelu gwybodaeth am eu strwythur ffisegol i ddeall eu ffurfiad a'u datblygiad yn well drwy eu cymharu â'n cysawd haul ni. Yn fwy diweddar, mae ef wedi bod yn cyfeirio ei ymdrechion at ganfod planedau sy'n debyg i'r Ddaear yn ogystal â bywyd yn y bydysawd. Yn ystod ei yrfa, mae ef wedi datblygu cyfarpar seryddol newydd yn ogystal ag ymagweddau at arsylwi ac algorithmau canfod newydd. Mae ef wedi cynnal a chymryd rhan mewn rhaglenni gan arwain at ganfod cannoedd o blanedau, gan gynnwys sawl canlyniad sydd wedi torri tir newydd.

Mae'r Athro Queloz yn mynd ati'n rhagweithiol i boblogeiddio gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac astroffiseg yn benodol, drwy lawer o raglenni dogfen gwyddonol, erthyglau poblogaidd, cyfweliadau teledu a radio, gan rannu'r cyffro ym maes gwyddoniaeth â'r cyhoedd ehangach.

Ers 2013, mae ef wedi bod yn Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n arwain rhaglen ymchwil gynhwysfawr sydd â'r nod o wneud cynnydd pellach yn ein dealltwriaeth o ffurfiad, strwythur a chyfaneddoldeb ecsoblanedau yn y bydysawd ynghyd â hyrwyddo a rhannu cyffro'r gwaith hwn â’r cyhoedd.

Crynodeb:

Mae cyfoeth ac amrywiaeth y systemau planedol sydd bellach wedi cael eu darganfod, wedi newid ein safbwynt o ran ffurfiad planedau ar y cyfan ac, yn fwy penodol, ein lle yn y bydysawd. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i gael safbwyntiau hanesyddol ac mae'n gyfle cymhellol i chwilio am arwyddion o fywyd ar y bydoedd newydd hyn fel ffordd o archwilio ein tarddiad ein hun. Byddaf yn cyflwyno i'r gynulleidfa yr heriau a'r cynnydd diweddar yn y maes ymchwil newydd hwn a byddaf yn crybwyll y datblygiad o baradeim newydd o ran tarddiad bywyd ar y Ddaear.

Amser: Dydd Iau 19 Hydref, 4:30 pm (te/coffi/byrbrydau o 4:00pm)
Lleoliad: Darlithfa Grove, Campws Singleton

David Olive

Yr Athro DAVID OLIVE, CBE, FRS, FLSW (1937 - 2012) oedd un o aelodau sylfaenol grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau Abertawe ym 1992, a chyn hynny roedd ganddo swyddi academaidd yng Ngholeg Imperial, CERN a Chaergrawnt. Llywiodd ei gyfraniadau arloesol ddatblygiad damcaniaeth maes cwantwm a damcaniaeth llinyn. Dechreuodd ei yrfa wyddonol gyda gwaith pwysig mewn damcaniaeth matrics S a arweiniodd at gyd-ysgrifennu'r testun diffiniol ar y pwnc dan y teitl ’The Analytic S-matrix" ynghyd ag Eden, Landhoff a Polkinghorne. Roedd gan ei waith ar y llinyn troelli, a arweiniodd at amcanestyniad GSO (Gliozzi-Scherk-Olive), rôl ganolog wrth wireddu uwchgymesuredd amser-gofod mewn damcaniaeth llinyn.

Ddarlith Nodedig David Olive

Cyflwynodd yr Athro Olive, ynghyd â Peter Goddard ac Adrian Kent, adeiladwaith coset, sef un o'r canlyniadau pwysicaf mewn damcaniaeth maes cwantwm cydymffurfio dau-ddimensiwn, gan arwain yn y pen draw at ffyrdd o ymgorffori cymesuredd mesur amser-gofod mewn damcaniaeth llinyn. Cafodd mewnwelediad dwfn Goddard, Nuyts ac Olive ar nodweddion monopolau, a chynnig beiddgar Olive a Montonen ar ddeuoliaeth drydan-magnetig mewn damcaniaeth mesur nad yw’n Abelaidd, yr effaith fwyaf pellgyrhaeddol ar ddatblygu deuoldeb mewn damcaniaeth maes cwantwm. Mae hefyd wedi ysgogi chwyldro deuoldeb mewn damcaniaeth llinyn ac M-theori. Dyfarnwyd Medal Dirac y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol (ICTP) i David ym 1997 ar gyfer y cyfraniadau arloesol a phellgyrhaeddol hyn.

Yn 2019, sefydlwyd cyfres flynyddol o ddarlithoedd er cof am David a'i waith dan nawdd / mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu David yn Gymrawd Sefydlu'r Gymdeithas, ar ôl cael ei ethol yn 2010.

Cyflwynwyd Darlith David Olive gyntaf gan yr Athro Robbert Dijkgraaf, Cyfarwyddwr Athrofa Astudio Uwch, Princeton. 

Darlithoedd yn y Gorffennol