Trosolwg y prosiect
Mae cydweithio’n ddirgelwch esblygol. Tra bydd dehongliad syml o ddethol naturiol fel ‘goroesiad y cymhwysaf’ yn rhagddweud y bydd unigolion yn manteisio ar ymddygiad hunanol a chystadleuol, mae cydweithio’n gyffredin ym myd natur, yn ogystal â bod o arwyddocâd esblygol a chymdeithasol. Ein nod ni yw deall sut mae cymdeithasau cydweithredol yn gweithio, er enghraifft drwy ymchwilio i’r sefyllfaoedd hynny lle mae gwrthdaro’n digwydd rhwng aelodau’r gymdeithas a sut caiff ei ddatrys.
Mae ein gwaith wedi defnyddio’r mongŵs rhesog gwyllt yn Uganda yn aml ond mae’r ymchwil bresennol yn ymestyn i'w rywogaethau cydweithredol eraill megis swricatiaid, corfongwsiaid a physgod ciclid.