Un o'n cryfderau craidd yw delweddu a dadansoddi data am symudiadau anifeiliaid, yn enwedig o ddata aml-ddimensiwn amledd uchel o dechnoleg wedi'i hatodi i anifeiliaid. Atgyfnerthwyd hyn yn fawr gan ein cyfleuster delweddu o'r radd flaenaf, a ariennir gan grant adnewyddu Labordy Cymdeithas Frenhinol Wolfson. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys clwstwr cyfrifiadurol sy'n gallu prosesu meintiau mawr o ddata, amrywiaeth o sgriniau diffiniad uchel ar gyfer delweddu data, a labordy electroneg ar gyfer datblygu technolegau wedi'u hatodi i anifeiliaid.
Rydym yn parhau i ddatblygu technegau tagio anifeiliaid, o'r synwyryddion a ddefnyddir ar anifeiliaid, i fetrig sy'n rhoi gwybodaeth i ecolegwyr am symudiadau anifeiliaid a'u defnydd o egni (yn benodol drwy DBA), a dulliau atodi tagiau. Mae hyn yn adeiladu ar hanes hir Rory Wilson o ddatblygu technolegau tagio, sy'n dyddio'n ôl i rai o'r synwyryddion dyfnder cyntaf a ddefnyddiwyd ar adar sy'n plymio, datblygiad geoleoliad seiliedig ar olau, gogyfrif ac, yn fwy ddiweddar, dangos y gall metrigau cyflymiad fod yn ddirprwy grymus ar gyfer cyfradd fetabolaidd gweithgaredd penodol mewn anifeiliaid gwyllt.
Mae ein tagiau Dyddiadur bellach ar gael i'r gymuned ehangach drwy ein cwmni deillio, WildByte Technologies: http://wildbytetechnologies.com/tags.html