Trosolwg grŵp
Mae'r Grŵp Ymchwil Ecoleg Gofod a Phoblogaeth (SpacePop) wedi ei leoli yn yr Adran Biowyddorau. Mae diddordeb gennym ym mhob agwedd ar ecoleg poblogaethau lle mae gofod a strwythur gofodol yn bwysig. Mae hyn yn cynnwys achosion dosbarthu gofodol organebau, yn ogystal ag effeithiau strwythur gofodol ar ddeinamegau poblogaeth. Rydym yn defnyddio ystod eang o ymagweddau, gan ymchwilio i brosesau dynamig wedi'u strwythuro'n ofodol drwy fodelu ystadegol o fonitro data, arbrofion labordy a seiliedig yn y maes, a dulliau molecwlaidd. Mae llawer o'n gwaith wedi'i ysgogi gan chwilfrydedd ond rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau cymhwysol pwysig, gan gynnwys rhyngweithiadau rhwng rhywogaethau symudol a gosodiadau ynni adnewyddadwy, ecoleg clefyd pryfed peillio a monitro amgylcheddol. Mae'r themâu presennol yn cynnwys dealltwriaeth o ddosbarthiadau a thueddiadau mewn poblogaethau morloi llwydion o amgylch Cymru a Môr Iwerddon, gan ddatblygu morwellt fel system fodel seiliedig yn y maes i archwilio prosesau a deinameg ecolegol, yn ogystal â metaboblogaeth a deinameg gymunedol.