Gall llywio iaith y byd CAC atal unigolion rhag cymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig.
Yma rydym wedi llunio rhestr o derminoleg CAC i'ch helpu i gymryd rhan yn ddiogel ac yn barchus.
Nodweddion Gwarchodedig
Diffiniad
Mae 9 nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig yw: oedran, ailbennu rhywedd, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, anabledd, hil – gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae gan bawb nodweddion gwarchodedig ac felly gall unrhyw un brofi gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod rhai unigolion a grwpiau yn profi mwy o wahaniaethu nag eraill. Efallai nad ydych yn ymwybodol o'r gwahaniaethu y maent yn ei brofi.
Mae pawb yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu yn y gweithle, ym myd addysg, fel defnyddiwr, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, wrth brynu/rhentu eiddo ac fel aelodau neu westeion clwb neu gymdeithas breifat.
Fe’ch amddiffynnir rhag gwahaniaethu drwy gysylltiad ac os ydych wedi cwyno am wahaniaethu neu wedi cefnogi cais person arall.
Troseddau Casineb
Diffiniad
Gellir erlyn unrhyw drosedd fel trosedd gasineb os yw'r troseddwr wedi dangos gelyniaeth neu wedi cael ei ysgogi gan elyniaeth yn seiliedig ar: hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol.
Mae'r term gelyniaeth yn golygu casineb, malais, dirmyg, rhagfarn, anghyfeillgarwch, dicter, drwgdeimlad ac atgasedd.
Cewch ragor o wybodaeth yma
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae troseddau casineb yn atgyfnerthu rhagfarn a phatrymau gwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl enbyd, ffoniwch 999.
Os _nd yw’n argyfwng, mae amryw o ffyrdd y gallwch roi gwybod am drosedd casineb gan gynnwys galw’r heddlu ar 101 neu lenwi ffurflen ar-lein https://www.report-it.org.uk/
Edrychwch am sefydliad trydydd parti a fydd yn eich helpu I adrodd am y drosedd casineb.
Rhagfarn Ddiarwybod
Diffiniad
Mae ein hymennydd yn llunio barn ac asesiadau cyflym o bobl a sefyllfaoedd heb i ni ei sylweddoli.
Caiff y farn a'r asesiadau cyflym hyn eu dylanwadu gan ein cefndir, ein hamgylchedd diwylliannol a'n profiadau personol.
Oherwydd eu natur ddiarwybod, nid ydym hyd yn oed yn ymwybodol mai dyna yw’n barn a’n safbwynt ac felly nid ydym yn ymwybodol o'u heffaith lawn a sut maent yn effeithio ar sut rydym yn rhyngweithio â phobl, ac ar ein penderfyniadau a'n bywydau.
Mae rhagfarn ddiarwybod yn effeithio ar y broses recriwtio, cyflogau a faint o gyfleoedd i ddatblygu mae unigolion yn eu derbyn.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae rhagfarn ddiarwybod yn effeithio ar sut rydym yn ymwneud ag eraill, heb i ni sylweddoli. Nid yw hyn yn gwneud rhywun yn berson drwg, dim ond yn anymwybodus.
Drwy ystyried y rhagfarnau sydd gennym rydym yn newid eu natur ddiarwybod ac yn osgoi gweithredu ar sail ystrydebau neu ragfarn.
Po fwyaf o unigolion sy'n cymryd cyfrifoldeb am archwilio eu rhagfarn ddiarwybod, lleiaf tebygol ydyn ni o ddod ar draws ystrydebau a rhagfarn.
Cymerwch brawf rhagfarn ddiarwybod a ddyluniwyd gan Harvard.
Microymosodiadau neu ficro-anghwrteisi
Diffiniad
Term nad yw'n gyfreithiol sy'n disgrifio rhyngweithiadau byr, bob dydd sy'n anfon negeseuon bychanol at rywun sy'n perthyn i grŵp lleiafrifol. Mae micro-anghwrteisi yn gynnil ac yn llechwraidd ac mae yn aml yn gadael y dioddefwr yn teimlo'n rhwystredig ac yn ddryslyd. Mae'r drwgweithredwr yn aml yn anymwybodol ei fod wedi tramgwyddo a’r effaith y mae wedi ei chael.
Peidiwch â chymryd mai ystyr ‘micro’ yw ei fod yn ddibwys, mae'n golygu bod yr ymddygiad ymosodol neu'r anffyddlondeb yn gynnil.
Cliciwch yma i ddysgu am ficro-anghwrteisi hiliol.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Os ydych yn dioddef microymosodiad, neu’n dyst iddo, byddwch chi’n ansicr a ddylech chi herio’r sarhad cynnil ai peidio. Os byddwch yn ei herio, mae peryg i chi niweidio’r berthynas â’r person(au) hyn a gallech roi eich hun mewn sefyllfa anniogel. Os na fyddwch yn ei herio, ni fydd y person(au) yn ymwybodol o'r boen a achoswyd a bydd yn parhau i achosi niwed heb iddo sylweddoli.
Wrth benderfynu sut i ymateb, ystyriwch hyn - os oeddech chi'n cyflwyno microymosodiad heb sylweddoli, sut hofffech chi weld rhywun yn amlygu hyn i chi? Sut byddech chi'n teimlo pe na baech yn cael gwybod ac yn parhau i gyflwyno microymosodiadau?
Mae'n bwysig eich bod chi'n barod i wrando a dysgu.
Gwyliwch Dr Kira Banks yn esbonio sut gall sefydliadau fynd i'r afael â microymosodiadau.
Straen Lleiafrifol
Diffiniad
O fewn ein strwythurau cymdeithasol, mae rhai grwpiau yn profi mwy o achosion o straen ar ffurf gwahaniaethu a rhagfarn, gan arwain at ganlyniadau iechyd mwy negyddol yn y grŵp hwnnw o’u cymharu â’r grŵp mwyafrifol.
Gall hyn gynnwys darparwyr meddygol yn gwrthod eu trin, bod yn sarhaus wrthynt neu’n gwrthod gwrando arnynt mewn perthynas â’u hiechyd.
Gallwch weld y model straen lleiafrifol yma.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Gallwn ni i gyd wneud dewisiadau ymwybodol i ddiwygio materion cymdeithasol sy’n ymwneud â hiliaeth, homoffobia a mathau eraill o wahaniaethu, er mwyn helpu i leihau'r anghyfartaledd o ran ansawdd bywyd ac iechyd meddwl rhwng y grwpiau mwyafrifol a lleiafrifol.
Amddiffynwr
Diffiniad
Rhywun sy'n cefnogi unigolyn neu achos penodol, yn enwedig siarad o’i blaid neu'n camu i mewn pan fydd rhywun yn ymosod ar yr unigolyn, yn ei fwlio neu’n aflonyddu arno.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Po fwyaf o amddiffynwyr sydd gennym yn y brifysgol, mwyaf y byddwn yn grymuso.
Mae'n bwysig bod yn ddiogel pan fyddwch yn amddiffyn rhywun.
Gwyliwch y fideo hwn: ‘The 4 D’s of bystander intervention’.
Aflonyddu
Diffiniad
Pan fydd person yn ymddwyn mewn ffordd annymunol tuag at berson arall sydd naill ai yn effeithio ar ei urddas neu sy’n creu amgylchedd bygythiol neu fychanol.
Gallai hyn fod o natur rywiol.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Gallwch gael eich aflonyddu mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; hil; crefydd neu gred; rhyw; tueddfryd rhywiol.
Gwahaniaethu
Diffiniad
Ystyr Gwahaniaethu Uniongyrchol yw cael eich trin mewn ffordd annheg oherwydd: pwy ydych chi; pwy mae rhywun yn meddwl ydych chi a/neu rywun sydd yn eich cwmni.
Mae'n cael ei ystyried yn wahaniaethu anghyfreithlon os ydych yn cael eich trin yn wahanol neu'n llai ffafriol o ganlyniad i nodwedd warchodedig. Does dim ots os nad oedd y person yn gwybod ei fod yn gwahaniaethu.
Darllenwch fwy am enghreifftiau o wahaniaethu anghyfreithlon.
Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd rheol, polisi neu arfer cyffredinol yn cael ei gymhwyso i bawb yn yr un modd, ond mae'n rhoi rhai unigolion dan anfantais.
Darllenwch fwy am enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae pawb yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu yn y gweithle, ym myd addysg, fel defnyddiwr, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, wrth brynu/rhentu eiddo ac fel aelodau neu westeion clwb neu gymdeithas breifat.
Fe’ch amddiffynnir rhag gwahaniaethu drwy gysylltiad ac os ydych wedi cwyno am wahaniaethu neu wedi cefnogi cais person arall.
Ystrydebu
Diffiniad
Priodoli galluoedd, agweddau, ymddygiadau, credoau, diddordebau, gwerthoedd a rolau i berson yn seiliedig ar ei nodweddion gwarchodedig.
Gallai hyn gynnwys rhagfarnu rhywun neu fod â syniadau penodol am grwpiau o bobl.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Efallai y byddwch yn gwneud rhagdybiaeth am unigolyn cyn dod i'w adnabod yn iawn, a allai effeithio ar sut rydych yn rhyngweithio â’r person hwnnw. Er enghraifft, rydych yn dod i wybod bod cyd-fyfyriwr yn grefyddol ac felly rydych yn tybio na fydd yn cyd-fynd â’ch barn am briodas ac yn osgoi trafod y pwnc.
Efallai bydd rhywun yn rhagdybio pethau amdanoch chi sydd ddim yn wir ar sail eich rhyw, eich credoau, eich oedran, neu’ch cyfeiriadedd rhywiol, er enghraifft.
'Mae pobl ifanc wrth eu bodd gyda nosweithiau allan a meddwi', neu 'does gan fyfyrwyr aeddfed ddim diddordeb mewn cymdeithasu â ni.'
Bwlio
Diffiniad
Brifo person arall neu grŵp o bobl yn fwriadol drosodd a throsodd mewn sefyllfa o anghydbwysedd pŵer. Gall bwlio fod yn gorfforol, yn eiriol neu'n seicolegol.
Dysgwch fwy am y Gynghrair Gwrth-fwlio.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae'n bwysig eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng 'tynnu coes' a 'bwlio'. Os yw rhywun yn cael ei dramgwyddo gan sylw rydych chi'n ei wneud a'ch bod yn ei ddiystyru ac yn honni mae tynnu coes oeddech chi, rydych chi'n annilysu'r hyn mae unigolion yn ei deimlo yn llwyr, ac yn achosi niwed pellach iddynt.
Os bydd rhywun yn dweud wrthych chi bod eich sylwadau tynnu coes yn annerbyniol, dylech ei dderbyn yn gwrtais a rhoi’r gorau i’r sylwadau neu’r gweithredoedd niweidiol.
Perthyn
Diffiniad
Mae gan fodau dynol awydd cynhenid i berthyn, boed hynny ymhlith ffrindiau, teulu neu gyd-weithwyr.
Pan fyddwch yn teimlo’n ddiogel a bod pobl yn eich derbyn ac yn eich cefnogi i fod yr hyn ydych chi, rydych wedyn yn cael ymdeimlad o berthyn i'r grŵp/amgylchedd hwnnw.
Mae amgylcheddau ffyniannus o berthyn yn creu sefyllfaoedd lle gall pawb gyfathrebu, cysylltu a chreu.
Sut mae hyn yn effeithio arnaf i.
Mae ymdeimlad myfyriwr o berthyn yn cyd-fynd â phrofiadau dysgu cadarnhaol a rhagoriaeth academaidd.
Po fwyaf yr ymdeimlad o berthyn sydd gennych, mwyaf tebygol ydych chi o fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich cysylltiadau â phobl eraill, ac yn ei dro, ar eich iechyd meddwl a'ch hunan-barch.