Gwirfoddoli yn ystod Cyrraedd a Chroeso

Ydych chi'n hoffi cwrdd â phobl newydd a bod yn rhan o brosiectau mawr? Ydych chi am wella eich set o sgiliau, gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod rhywun a rhoi'n ôl i gymuned Prifysgol Abertawe?

Os ateboch chi’n gadarnhaol, beth am ymuno â'n tîm gwych o wirfoddolwyr 'Croeso i Abertawe' a helpu i gyfarch myfyrwyr newydd sy'n cyrraedd a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol yn eu dinas newydd y mis Medi hwn.Mae’r cyfnod Croeso yn un o'r adegau mwyaf prysur yn ystod y flwyddyn academaidd ac mae'n dibynnu ar staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol yn rhoi o'u hamser i gynnig profiad Croeso pleserus i fyfyrwyr newydd, i roi argraff gyntaf wych o Brifysgol Abertawe ac yn y pen draw ddechrau creu ymdeimlad o gymuned.

Eleni bydd gweithgarwch Croeso ar waith rhwng dydd Mawrth 16 Medi a dydd Sul 22 Medi.

Sut gallaf wirfoddoli?

Cofrestrwch eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen ganlynol

Datganiad Cenhadaeth ar gyfer y cyfnod Cyrraedd

Cynllunio proses gyrraedd ddiogel, broffesiynol ac arloesol sy'n helpu myfyrwyr i integreiddio yng nghymuned Prifysgol Abertawe a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol.

PA ROLAU SYDD AR GAEL?