Croeso i Adran y Gymraeg
Mae astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig cyfle unigryw ac arloesol i fwrw golwg ar y Gymraeg drwy lens rhyngwladol, ac ystyried perthynas yr iaith â gweddill y byd drwy’i diwylliant a’i llenyddiaeth.
Mae traddodiad hir o astudio'r Gymraeg yn Abertawe, sy'n estyn yn ôl i adeg agor y Brifysgol ym 1920, ac heddiw, mae darlithwyr y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn meddu ar arbenigedd ym meysydd sosioieithyddiaeth, ysgrifennu creadigol, beirniadaeth lenyddol, cyfieithu a chyfraith a pholisi.
Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r Adran wedi symud ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus a chyffrous ym meysydd addysg, llywodraeth leol, cyfieithu, y cyfryngau, y diwydiant cyhoeddi, byd busnes a llawer o feysydd eraill.