‘Toward a UK fire danger rating system: Understanding fuels, fire behaviour and impacts’ (2020-2024). Nod y prosiect hwn yw sefydlu a phrofi'r sylfaen wyddonol a'r cydrannau allweddol angenrheidiol i greu system graddio perygl tân yn y Deyrnas Unedig sy'n effeithiol ac yn bwrpasol, i'w defnyddio wrth bennu tebygolrwydd ac effaith cyfundrefnau tân presennol ac yn y dyfodol. Fe'i hariennir drwy Grant Amlygu Pwnc NERC mewn cydweithrediad â Phrifysgol Manceinion (yr arweinydd), Ysgol Economeg Llundain, a Phrifysgolion Birmingham, Caerwysg a Portsmouth.
‘Advancing 3D Fuel Mapping for Wildfire Behaviour and Risk Mitigation Modelling’ (2019-2022). Yn y prosiect hwn, bydd aelodau'r grŵp ED yn gwella dealltwriaeth a gwaith lliniaru ynghylch tân ar diroedd gwyllt drwy wella galluoedd modelu ymddygiad tanau gwyllt. Drwy ddatblygu dulliau awtomataidd newydd (algorithmau), bydd yn gweithredu data tanwydd 3D go-iawn mewn modelau ymddygiad tanau gwyllt sy'n seiliedig ar ffiseg. Y modelau hyn yw'r rhai mwyaf datblygedig o ran eu gallu i ragfynegi ymddygiad tân, a nod y gwaith yw darparu gwir newid mewn galluoedd modelu tân ffisegol. Ariennir y prosiect hwn gan grant Ymchwilydd Newydd NERC mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau a Cyfoeth Naturiol Cymru.
‘Towards a Fire Early Warning System for Indonesia’ (ToFEWSI) (2017-2021). Nod y prosiect hwn a ariennir gan NERC/NEWTON yw datblygu cyfres o gyfarpar modelu sy'n seiliedig ar yr hinsawdd, hydroleg ac asiantau, ar raddfa'r dirwedd hyd at raddfa ranbarthol, er mwyn rhagfynegi digwyddiadau tanau mawn a choedwig yn Indonesia. Bydd y prosiect yn helpu Indonesia i leihau effeithiau tanau lleol a llygredd tarth yn rhanbarthol, a bodloni ei hymrwymiadau o dan Gytundeb ASEAN ar Lygredd Tarth Trawsffiniol a Chytundeb Hinsawdd Paris ar leihau allyriadau.
‘Wildfire impacts on carbon dynamics in vulnerable peatlands’ (2019-2022). Yn y rhaglen grant rhannu costau hon rhwng Cymdeithas Frenhinol y DU a Tsieina rhwng aelodau'r grŵp ED ac ymchwilwyr o Academi'r Gwyddorau Tsieina, ein nod yw dechrau meithrin gwybodaeth y mae gwir angen amdani am effeithiau hanes tanau gwyllt (amlder a difrifoldeb) ar byllau carbon tir mawn, drwy fesur carbon pyrogenig (sy'n isgynnyrch hirhoedlog tanau gwyllt) mewn ystod o fawndiroedd yn Tsieina a'r Deyrnas Unedig.
‘Impacts of the extreme 2018 forest fires and post-fire forest management on carbon pools and climate forcing’ (2019-2022). Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y tân gwyllt mwyaf a ddigwyddodd yn ystod tymor y tanau gwyllt eithafol yn 2018 yn Sweden. Mae'n archwilio sut mae difrifoldeb tân a gwaith rheoli coedwigoedd yn dylanwadu ar byllau carbon ac allyriadau carbon mewn math cyffredin o goedwig foreal Ewropeaidd a reolir. Fe'i hariennir gan Gyngor Ymchwil Sweden, ac fe'i cynhelir ar y cyd â Phrifysgol Lund, Sweden.
FIRElinks - ‘Fire in the Earth System: Science & Society’ (2018-22). Mae'r rhaglen hon, a arweinir ar y cyd gan y grŵp ED, yn datblygu rhwydwaith o wyddonwyr ac ymarferwyr ledled Ewrop sy'n rhan o ymchwil i danau gwyllt a gwaith rheoli'r tir. Mae'n cysylltu cymunedau o gefndiroedd gwyddonol a daearyddol gwahanol er mwyn hyrwyddo gwaith rhannu profiadau gwahanol a gwella ymagweddau at ymchwil i dân. Mae'n dod â 132 o wyddonwyr ac ymarferwyr o 30 gwlad at ei gilydd, ac fe'i hariennir gan y rhaglen H2020 EU COST-Action.
‘Fire and water: predicting and mitigating water pollution risk from wildfire ash’ (2018-2022). Mae'r prosiect hwn, a arweinir gan y grŵp ED, yn cynnwys (i) cael gafael ar wybodaeth sylfaenol hanfodol am brosesau cludo lludw tanau gwyllt a'r potensial i lygru, a defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn (b) datblygu'r model tebygolrwydd cyntaf ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy'n galluogi gwaith rhagfynegi patrymau cludo lludw yn y rhwydwaith hydrolegol, a'r risg llygru dŵr sy'n gysylltiedig â hynny. Ariennir y prosiect hwn gan NERC, ac fe'i cynhelir mewn cydweithrediad â Phrifysgol Melbourne, Gwasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau a phartneriaid diwydiannol yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia. Disgrifir rhai o'i ganlyniadau yma.
‘Gwireddu Cyfoeth Naturiol Mawndiroedd Cymru' (2018-2020). Nod y prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw gwella cyflwr a gwaith rheoli tiroedd mawn Cymru, a gwerthfawrogiad a dealltwriaeth amdanynt, drwy ddarparu gwaith adfer ymarferol, hyrwyddo arferion gorau ar gyfer rheoli mawndiroedd, cynyddu ymwybyddiaeth a mwynhad o ran mawndiroedd Cymru, a gwella’r sylfaen dystiolaeth ynghylch mawndiroedd Cymru. Fe'i harweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Rhaglen Mawndir y DU yr IUCN, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe.